Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (82)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 23 Medi 2008
Amser:
2.00pm
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog
NDM4007
Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:
Yn atal
Rheol Sefydlog 7.18 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 6.10 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu
i’r cynigion o dan Eitem 1 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 23 Medi 2008.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
Eitem 1: Cynnig i ethol Aelodau i Bwyllgorau
NNDM4008 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Nick Ramsay (Ceidwadwyr) yn Aelod o’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal yn lle Mark Isherwood (Ceidwadwyr).
NNDM4009
Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Chris Franks (Plaid Cymru) yn Aelod o’r Pwyllgor Cyllid yn lle Alun Ffred Jones
(Plaid Cymru).
NNDM4010
Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Mark Isherwood (Ceidwadwyr) yn Aelod o’r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth yn lle Andrew RT Davies (Ceidwadwyr).
NNDM4010
Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Rhodri Glyn Thomas (Plaid Cymru) fel Aelod o’r Pwyllgor Cynaliadwyedd yn lle Alun Ffred Jones (Plaid Cymru).
Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
Eitem 2: Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 6.2,7.8 a 7.9
NNDM4012 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol a Rheol Sefydlog 35.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor
Busnes a anfonwyd drwy e-bost at Aelodau ac a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Medi; a
2.
Yn cymeradwyo’r gwelliannau i Reolau Sefydlog a nodir yn Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi y bydd y gwelliannau i Reolau Sefydlog yn dod i rym ar 30 Medi.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
2.01pm
Eitem
3: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
………………………
3.13pm
Eitem
4: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
………………………
3.34pm
Eitem 5: Datganiad gan y Gweinidog dros Dreftadaeth : Rhannu Llwyddiannau’r Gemau Olympaidd
………………………
4.27pm
Eitem 6: Datganiad gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig: Y Tafod Glas
………………………
5.11pm
Eitem 7: Datganiad deddfwriaethol gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig: Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig) 2008 - (Teitl Blaenorol - Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch y Bwrdd Ardollau Cig Coch)
………………………
5.30pm
Eitem 8: Datganiad deddfwriaethol gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol: Y Mesur Llywodraeth Leol
………………………
Eitem 9: Dadl ar yr Amgylchedd Hanesyddol - Gohiriwyd tan 30 Medi
………………………………