Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (122)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 24 Mawrth 2009
Amser: 1.30pm
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Ni ofynnwyd cwestiwn 2.
…………………………
2.28pm
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
…………………………
2.41pm
Eitem 3: Datganiad gan Brif Weinidog Cymru: yr ymchwiliad e.coli
…………………………
3.22pm
Eitem 4: Datganiad gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig: y diweddaraf am y rhaglen i ddileu TB
…………………………
4.11pm
Eitem 5: Datganiad gan y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd Plant
…………………………
4.56pm
Eitem 6: Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Plant
…………………………
5.38pm
Eitem 7: Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Galluedd Meddyliol (Amddifadu o Ryddid: Asesiadau, Awdurdodiadau Safonol ac Anghydfodau ynghylch Preswyliaeth) (Cymru) 2009
NDM4182 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Chwefror 2009 mewn perthynas â’r gorchymyn drafft, Rheoliadau Galluedd Meddyliol (Amddifadu o Ryddid: Asesiadau, Awdurdodiadau Safonol ac Anghydfodau ynghylch Preswyliaeth) (Cymru) 2009 a
2. Yn cymeradwyo bod y gorchymyn drafft, Rheoliadau Galluedd Meddyliol (Amddifadu o Ryddid: Asesiadau, Awdurdodiadau Safonol ac Anghydfodau ynghylch Preswyliaeth) (Cymru) 2009, yn cael ei wneud yn unol ag:
a) y drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Chwefror 2009; a
b) y Memorandwm Esboniadol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Chwefror 2009.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
…………………………
Eitem 8: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Mesur Diwygio Lles - Gohiriwyd
…………………………
5.39pm
Eitem 9: Cynnig i gymeradwyo'r gyllideb atodol
NDM4173 Andrew Davies (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.21, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2008-2009, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 3 Mawrth 2008.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol a gynhwysir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 27, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) Yr adnoddau y cytunir arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrennir ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y symiau a amcangyfrifir i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a
(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
…………………………
Eitem 10: Dadl ar fynediad dinasyddion - gohiriwyd hyd 31 Mawrth 2009
…………………………