Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (17)
Dyddiad: Dydd Mercher, 26 Medi 2007
Amser: 12.30pm
Eitem 1: Cwestiynau i'r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf.
...................................................
1.16pm
Eitem 2: Cwestiynau i'r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf ac eithrio cwestiwn 4 a drosglwyddwyd i’w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol a chwestiwn 8 a drosglwyddwyd i’w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
...................................................
2.03pm
Eitem 3: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adolygiadau o Wasanaethau Iechyd
...................................................
3.00pm
Eitem 4: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM3673 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU er mwyn cefnogi cynnal refferendwm ar gytuniad newydd yr Undeb Ewropeaidd.Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr) Dileu popeth ar ôl "Cynulliad Cenedlaethol Cymru” a rhoi’r canlynol yn ei le:
"1. Yn croesawu’r amryw fanteision sydd wedi dod i Gymru yn sgil aelodaeth â’r Undeb Ewropeaidd;
2. Yn cydnabod bod y Cytuniad Diwygio drafft yn cynnwys agweddau sydd o fantais uniongyrchol i’r Cynulliad Cenedlaethol;
3. Yn nodi bod y Gynhadledd Rhynglywodraethol ar y Cytuniad Diwygio yn parhau ac na chytunwyd ar destun hyd yn hyn; a
4. Yn credu na ellir gwneud penderfyniad priodol ar refferendwm hyd nes bod y trafodaethau wedi dod i ben.”Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Canlyniad y bleidlais: Cynhaliwyd pleidlais ar y gwelliant:
O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm |
---|---|---|---|
39 | 0 | 9 | 48 |
...................................................
3.50pm
Eitem 5: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM3674 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod amddiffynfeydd rhag llifogydd sydd eisoes ar waith yn cael eu huwchraddio i ddiwallu’r un meini prawf ag unrhyw amddiffynfeydd newydd rhag llifogydd sydd i’w hadeiladu yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu popeth ar ôl "Cynulliad Cenedlaethol Cymru” a rhoi’r canlynol yn ei le:
"1. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i’r afael â pherygl llifogydd;
2. Yn croesawu’r dull newydd o reoli perygl o’r fath yng Nghymru, gan gynnwys pwysleisio pwysigrwydd barn trigolion;
3. Yn cefnogi’r angen am gydweithio agos rhwng darparwyr gwasanaethau wrth ddod o hyd i atebion i reoli’r perygl sy’n datblygu o safbwynt llifogydd; a
4. Yn cydnabod bod gweithdrefnau ac arolygon cynnal a chadw priodol yn rhan annatod o’r amddiffynfeydd.”Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i roi moratoriwm ar bob gwaith adeiladu ar Orlifdiroedd.”Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i gynnwys Cymdeithas Yswirwyr Prydain fel ymgynghorai statudol wrth gynllunio amddiffynfeydd rhag llifogydd a datblygu pob gwaith adeiladu newydd mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd.”Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Canlyniadau’r bleidlais: Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm |
---|---|---|---|
39 | 0 | 9 | 48 |
O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm |
---|---|---|---|
9 | 0 | 38 | 47 |
O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm |
---|---|---|---|
11 | 0 | 34 | 45 |
...................................................
4.50pm
Eitem 6: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
NDM3672 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Gwladol i gyhoeddi amserlen ar gyfer datganoli rheoliadau cynllunio dros gyfleusterau pŵer sy’n cynhyrchu dros 50 MW a rheoliadau rheoli adeiladau;
2. Yn gwrthwynebu unrhyw orsafoedd ynni niwclear newydd ar gyfer Cymru;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i lobïo Llywodraeth y DU am dariff wedi’i warantu ar gyfer microgynhyrchwyr sy’n cyfrannu at y Grid Cenedlaethol.
4. Yn annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno cynigion i gynnig cymhelliannau i bobl wneud eu tai’n "wyrdd”.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu popeth ar ôl "Cynulliad Cenedlaethol Cymru” ac rhoi`r canlynol yn ei le
"1. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i bwyso am ddatganoli rheoliadau cynllunio dros gyfleusterau pŵer sy’n cynhyrchu dros 50MW, gan gynnwys pwer niwcliar;
2. Yn cyd-fynd â bwriad Llywodraeth Cynulliad Cymru i alw am ddatganoli rheoliadau adeiladu i helpu i greu cymhelliannau pellach i bobl yng Nghymru wneud eu tai’n "wyrdd”;
3. Yn credu y byddai tariff wedi’i warantu ar gyfer microgynhyrchu mewn eiddo domestig yn helpu yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd;
4. Yn croesawu’r ymrwymiadau yng nghytundeb "Cymru’n Un” i leihau ôl-troed carbon Cymru.”Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant tan y cyfnod pleidleisio. Canlyniad y bleidlais: Cynhaliwyd pleidlais ar y gwelliant:
O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm |
---|---|---|---|
42 | 0 | 5 | 47 |
………………………………
5.53pm
Gohiriwyd y cyfarfod.
5.58pm
Bu i’r cyfarfod ailymgynnull i bleidleisio ar y cynigion a’r gwelliannau.
...................................................
6.00pm
Eitem 7: Dadl fer
NDM3675 Christine Chapman (Cwm Cynon):
Nid yw Adran 58 yn gweithio: "Pam mae rhaid gwahardd smacio o’r diwedd.”
...................................................