27/06/2007 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (9)

Dyddiad: Dydd Mercher, 27 Mehefin 2007
Amser: 12.30pm

12.30pm
Eitem 1: Cwestiynau i'r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 4, 5 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog gyda chyfrifoldeb am Dai.

...................................................

1.02pm
Eitem 2: Cwestiynau Cyllid i'r Gweinidog dros y Gyllideb a Rheoli Busnes

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf.

...................................................

1.35pm
Eitem 3: Dadl Plaid Cymru  

NDM3624 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gymryd camau gweithredol i fynd i’r afael â’r argyfwng tai parhaus drwy:
a) Gweithredu amrywiaeth o bolisïau i fynd i’r afael â phroblem tai fforddiadwy;b) Cynyddu’r buddsoddiad mewn tai cymdeithasol drwy ddatblygu ffynonellau buddsoddi newydd ac arloesol;c) Diwygio’r system gynllunio er mwyn gwella gallu awdurdodau lleol i ddiwallu’r galw lleol am dai;d) Gwella’r cyflenwad o dir sy’n eiddo cyhoeddus i ddiwallu’r angen lleol am dai.Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

...................................................

2.43pm
Eitem 4: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM3623 William Graham (Dwyrain De Cymru)Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:1. Yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i lunio rhaglen weithredu er mwyn creu Cymru fwy dwyieithog, gan gynnwys;a) Creu swyddfa Comisiynydd Iaith ac amlinellu swyddogaethau’r swyddfa honno.b) Cyflwyno deddfwriaeth i bennu Cymraeg, yn ogystal â Saesneg, yn iaith swyddogol yng Nghymru.Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)Dileu pwynt 1 b) a rhoi yn ei le:"Cadarnhau statws statudol y Gymraeg fel iaith swyddogol yng Nghymru.”Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Pleidleisiau a Thrafodion
O blaid Ymatal Yn erbyn Cyfanswm
 24  0  32  56
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 -  Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)Ym mhwynt 1 b), dileu popeth ar ôl 'bennu,’ a rhoi yn ei le:"hawliau i unigolion dderbyn gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, a chadarnhau statws swyddogol Cymraeg a Saesneg.”  Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
Gwelliant 3 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Ceisio’r pŵer i gyflwyno deddfwriaeth i sicrhau bod pob gwasanaeth cyhoeddus ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.”Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Pleidleisiau a Thrafodion
O blaid Ymatal Yn erbyn Cyfanswm
 18  14  24  56
Gwrthodwyd gwelliant 3.Gwelliant 4 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Datblygu ac estyn Ardaloedd Gweithredu Iaith i helpu i wyrdroi’r patrwm o ddiboblogi a sicrhau y caiff unigolion sy’n symud i gymunedau Cymraeg eu hiaith eu croesawu a’u hintegreiddio.”Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Pleidleisiau a Thrafodion
O blaid Ymatal Yn erbyn Cyfanswm
 18  14  22  54
Gwrthodwyd gwelliant 4.Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)Ychwanegu fel is-bwynt newydd:"Cefnogi’r ymgyrch dot.cym i ddynodi Parth Lefel Uchaf ar y rhyngrwyd ar gyfer yr iaith a’r gymuned ddiwylliannol Gymraeg.”Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.Gwelliant 6 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)Ychwanegu fel is-bwynt newydd:"Diwygio TAN 20: Yr Iaith Gymraeg - Cynlluniau Datblygu Unedol a Rheoli Cynllunio (2000) i gryfhau’r canllawiau ar gyfer astudiaethau effaith ieithyddol.”Derbyniwyd gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.Gwelliant 7 -  Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:"2. Yn condemnio gweithredoedd diweddar Thomas Cook i atal yr iaith Gymraeg rhag cael ei defnyddio ym mhob cyd-destun yn y gweithle.”Derbyniwyd gwelliant 7 yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:1. Yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i lunio rhaglen weithredu er mwyn creu Cymru fwy dwyieithog, gan gynnwys;a) Creu swyddfa Comisiynydd Iaith ac amlinellu swyddogaethau’r swyddfa honno.b) Cyflwyno deddfwriaeth i bennu hawliau i unigolion dderbyn gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, a chadarnhau statws swyddogol Cymraeg a Saesneg.c) Cefnogi’r ymgyrch dot.cym i ddynodi Parth Lefel Uchaf ar y rhyngrwyd ar gyfer yr iaith a’r gymuned ddiwylliannol Gymraeg.d) Diwygio TAN 20: Yr Iaith Gymraeg - Cynlluniau Datblygu Unedol a Rheoli Cynllunio (2000) i gryfhau’r canllawiau ar gyfer astudiaethau effaith ieithyddol.2. Yn condemnio gweithredoedd diweddar Thomas Cook i atal yr iaith Gymraeg rhag cael ei defnyddio ym mhob cyd-destun yn y gweithle.Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

...................................................

3.53pm
Eitem 5: Dadl Fer


NDM3622  Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Dyled Myfyrwyr yng Nghymru.

...................................................

Daeth y cyfarfod i ben am 4.26pm

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 2.00pm ddydd Mawrth, 3 Gorffennaf 2007

Ysgrifenyddiaeth y Siambr