29/01/2008 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (42)

Dyddiad: Dydd Mawrth, 29 Ionawr 2008

Amser: 2.00pm


Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru


Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl.

………………………

2.58pm

Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

………………………

3.17pm

Eitem 3: Datganiad gan Brif Weinidog Cymru: Cau Glofa’r Twr

………………………

3.33pm

Cynnig i ohirio'r Rheolau Sefydlog

NNDM3854 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:

Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 23.24 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod yr Aelod sy'n gyfrifol am y Mesur arfaethedig yn cynnig bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig heb fod yn gynharach na phum diwrnod gwaith ar ôl i bwyllgor gyflwyno adroddiad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur. Bydd hyn yn caniatáu i'r cynnig o dan eitem 3 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 29 Ionawr 2008.


Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………

3.34pm

Eitem 4: Dadl Cyfnod 1 ar y Mesur arfaethedig ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG o dan Reol Sefydlog 23.28

NDM3849 Edwina Hart (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.24:

Yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008.

Gosodwyd y Mesur arfaethedig ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008 a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 2 Gorffennaf 2007;

Caiff adroddiad y Pwyllgor ar y Mesur arfaethedig ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) ei osod gerbron y Cynulliad erbyn 25 Ionawr 2008.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.


………………………

4.28pm

Eitem 5: Dadl ar Setliad Llywodraeth Leol

NDM3848 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988:

Yn cymeradwyo’r Local Government Finance Report (NO-1) 2008-2009 (Final Settlement - Councils) (Saesneg yn unig) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth 22 Ionawr 2008.

Yn unol â Rheol Sefydlog 7.19 (iii), ni ddewiswyd y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

16

53

Derbyniwyd y cynnig.

Daeth y cyfarfod i ben am 5.26pm

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 12.30pm ddydd Mercher, 30 Ionawr 2008

Ysgrifenyddiaeth y Siambr