Pan fydd Senedd y DU yn dymuno deddfu ar fater sydd eisoes wedi'i ddatganoli i Senedd Cymru, mae confensiwn yn ei gwneud yn ofynnol na fydd yn gwneud hynny fel arfer heb gael cydsyniad Senedd Cymru. Bydd y Senedd yn rhoi'r cydsyniad hwn drwy gyfrwng Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol. Mae'r Senedd yn ystyried Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol drwy graffu ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol.
Caiff manylion am sut y mae'r Senedd yn ymdrin â chynigion cydsyniad deddfwriaethol eu hamlinellu yn Rheol Sefydlog 29 (PDF, 2.04MB).
Mae'r Senedd wedi ystyried cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Biliau canlynol y DU yn ystod y Chweched Senedd. Mae manylion llawn yr ystyriaethau hynny, gan gynnwys yr amserlen craffu gan y Pwyllgor Busnes a chanlyniad unrhyw waith craffu yn y Cyfarfod Llawn neu gan bwyllgorau, ar gael ar y dudalen a ganlyn ar gyfer pob Bil unigol y DU.