Datblygu'r Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru)

Cyhoeddwyd 15/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/03/2021   |   Amser darllen munudau

O bryd i'w gilydd, rhaid i'r Llywydd gynnal balot i benderfynu ar enw Aelod, heblaw aelod o'r Llywodraeth, a gaiff ofyn am gytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil.

Rhaid i Aelod ddarparu "gwybodaeth cyn y balot" yn nodi bwriad y Bil arfaethedig.

Os bydd y Cynulliad yn cytuno i gyflwyno Bil o'r fath, gall enillydd y Balot ymgynghori ar ei gynigion cyn cyflwyno'r Bil yn ffurfiol.

​Prif Gerrig Milltir Manylion​
​Dyddiad y Ballot 17 Gorffennaf 2013
​Y ddadl y cytunodd y Cynulliad ynddi y câi enillydd y Balot gyflwyno Bil, gan arwain at roi gwybodaeth cyn y balot 16 Hydref 2013
​ymgynghoriadau a gwaith allgymorth i lywio'r modd y mae'r Aelod yn datblygu'r Bil Y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) - Ymgynghoriad - Daeth i ben ym mis Ebrill 2014
​Dyddiad cyflwyno'r Bil yn ffurfiol 15 Gorffennaf 2015
​Gwybodaeth am hynt deddfwriaethol y Bil wedi'i gyflwyno ​Y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru)

Teitl gwreiddiol y Bil hwn oedd y Bil Llythrennedd Ariannol.

Ar ôl i'r Cynulliad gytuno ar gyflwyno'r Bil a wnaeth roi ar waith yr ymgynghoriad ar wybodaeth cyn y balot er mwyn llywio datblygiad y Bil, newidiodd Bethan Jenkins AC ei deitl i'r Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru).