Hynt y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

Cyhoeddwyd 03/12/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

  • Enillydd y balot: Mick Antoniw, Bil 040: Bil Asbestos (Adennill Costau Meddygol).

O bryd i'w gilydd, rhaid i'r Llywydd gynnal balot i benderfynu ar enw Aelod, heblaw aelod o'r Llywodraeth, a gaiff ofyn am gytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil.

Rhaid i Aelod ddarparu gwybodaeth cyn y balot yn nodi bwriad y Bil arfaethedig.

Os bydd y Cynulliad yn cytuno i gyflwyno Bil o'r fath, gall enillydd y Balot ymgynghori ar ei gynigion cyn cyflwyno'r Bil yn ffurfiol.

​Prif gerrig milltir Manylion
​​Dyddiad y Ballot 12 Mawrth 2012
​​Y ddadl y cytunodd y Cynulliad ynddi y câi enillydd y Balot gyflwyno Bil, gan arwain at roi gwybodaeth cyn y balot 16 Mai 2012
​​Dyddiad cyflwyno'r Bil yn ffurfiol ​​3 Rhagfyr 2012
​​Gwybodaeth am hynt ddeddfwriaethol y Bil wedi'i gyflwyno ​Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)