Hynt y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

Cyhoeddwyd 03/12/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

  • Enillydd y balot: Kirsty Williams, Bil 046: Y Bil Isafswm Lefelau Staffio Nyrsys (Cymru).

O bryd i'w gilydd, rhaid i'r Llywydd gynnal balot i benderfynu ar enw Aelod, heblaw aelod o'r Llywodraeth, a gaiff ofyn am gytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil.

Rhaid i Aelod ddarparu gwybodaeth cyn y balot yn nodi bwriad y Bil arfaethedig.

Os bydd y Cynulliad yn cytuno i gyflwyno Bil o'r fath, gall enillydd y Balot ymgynghori ar ei gynigion cyn cyflwyno'r Bil yn ffurfiol.

​Prif gerrig milltir ​Manylion
​Dyddiad y Ballot ​11 Rhagfyr 2013
​​Y ddadl y cytunodd y Cynulliad ynddi y câi enillydd y Balot gyflwyno Bil, gan arwain at roi gwybodaeth cyn y balot 5 Mawrth 2014
​Ymgynghoriadau er mwyn llywio datblygiad y Bil: ​Y Bil Isafswm Lefelau Staffio Nyrsys (Cymru) - Ymgynghoriad - Daeth i ben ym mis Mehefin 2014

Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) - Ymgynghoriad - Daeth i ben ym mis Medi 2014

Crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriadau
​Dyddiad cyflwyno'r Bil yn ffurfiol ​3 Rhagfyr 2014
​Gwybodaeth am hynt ddeddfwriaethol y Bil wedi'i gyflwyno ​​Y Bil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru)

Teitl gwreiddiol y Bil hwn oedd y Bil Isafswm Lefelau Staffio Nyrsys (Cymru).

Ar ôl yr ymgynghoriad cychwynnol, a gynhaliwyd er mwyn llywio datblygiad y Bil, newidiodd Kirsty Williams y teitl i'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru).

Yn ystod hynt ddeddfwriaethol y Bil, newidiwyd y teitl i'r Bil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru).