Grwpiau Trawsbleidiol - Pedwerydd Cynulliad (2011-2016)

Cyhoeddwyd 31/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/03/2021   |   Amser darllen munud

Gall Aelodau'r Cynulliad sefydlu grwpiau trawsbleidiol i ymchwilio i unrhyw faes pwnc sy'n berthnasol i'r Cynulliad.

Rhaid i grŵp gynnwys Aelodau o dri o'r grwpiau plaid sydd wedi'u cynrychioli yn y Cynulliad.
Nid yw grwpiau trawsbleidiol yn grwpiau Cynulliad ffurfiol ac nid yw Rheolau Sefydlog y Cynulliad, felly, yn gymwys iddynt. Nid oes rôl ffurfiol ganddynt o ran datblygu polisi.

Ar 26 Mehefin 2013, penderfynodd y Cynulliad gyflwyno'r rheolau newydd ar gyfer gweithredu Grwpiau Trawsbleidiol (PDF 102KB), yn dilyn ymchwiliad gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Daeth y rheolau newydd i rym ar 23 Medi ac mae angen i grwpiau trawsbleidiol presennol y Cynulliad ailgofrestru.

Mae'r grwpiau trawsbleidiol a ganlyn wedi'u cofrestru ar y Pedwerydd Cynulliad: