Rosemary Butler

Rosemary Butler

Y Llywydd 2011 - 2016

Cyhoeddwyd 31/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/12/2020   |   Amser darllen munud

Y Fonesig Rosemary Butler

​Llywydd y Cynulliad 2011 - 2016


Cafodd y Fonesig Rosemary Butler ei hethol i gynychioli Gorllewin Casnewydd yn etholiad cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 1999 ac fe'i hetholwyd yn Llywydd gan ei chyd-Aelodau Cynulliad ar 11 Mai 2011. Ymddeolodd y Fonesig Rosemary fel Aelod Cynulliad yn etholiad y Cynulliad yn 2016.

Newidiadau i Fusnes y Cynulliad

Roedd y Fonesig Rosemary yn gyfrifol am gyflwyno a llywio nifer o newidiadau i arferion y Pedwerydd Cynulliad, gan sichrau mwy o graffu ar Lywodraeth Cymru. Mae gwaith craffu effeithiol yn rhan hanfodol o unrhyw ddiwylliant democrataidd, felly roedd cymryd golwg o'r newydd ar sut y gallai Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddod o hyd i gyfleoedd i adnewyddu ei arferion a'i weithdrefnau yn bwysig iawn iddi. 

Mae'r newidiadau a wnaed yn ystod y Pedwerydd Cynulliad yn cynnwys:

  • terfynau amser cyflwyno byrrach ar gyfer cwestiynau llafar er mwyn eu gwneud yn fwy amserol a gwneud y gwaith o graffu ar Weinidogion gan Aelodau'r meinciau cefn yn fwy amrywiol;
  • cyflwyno dadleuon Aelodau Unigol gyda chynigion trawsbleidiol;
  • amser dynodedig ar gyfer 'Cwestiynau gan Arweinwyr', sydd wedi rhoi cyfle i arweinwyr y pleidiau graffu ar y Prif Weinidog yn fanwl ar bynciau o'u dewis heb orfod rhoi rhybudd o flaen llaw; a
  • 'Chwestiynau gan lefarwyr', sy'n caniatáu i lefarwyr y pleidiau ofyn tri chwestiwn yr un i'r Gweinidogion, eto heb rybudd.

Mae'r newidiadau hyn wedi sicrhau bod y trafodion yn y Siambr yn fwy amserol ac wedi golygu y gellir holi'r Lywodraeth yn fanlych.

 

Gwella ymgysylltu

 

Ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus

Ar ôl gostyngiad yn nifer yr Aelodau Cynulliad benywaidd a etholwyd yn 2011, lansiodd y Fonesig Rosemary ymgyrch i gynyddu nifer y menywod mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru, gyda'r nod o annog mwy o fenywod i ymgeisio mewn eholiadau ac felly sicrhau democratiaeth fwy cynrychioladol yng Nghymru.

Yn seiliedig ar ddadansoddiad o'r ystadegau a ddarparwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn yr adroddiad 'Pwy sy'n rhedeg Cymru?, roedd yr ymgyrch yn trafod y rhwystrau go iawn a chanfyddedig, sy'n atal menywod rhag ymgeisio am swyddi mewn bywyd cyhoeddus, ac yn cynnig atebion ymarferol i oresgyn y rhwystrau hynny.

Yn dilyn taith canfod ffeithiau o amgylch Cymru yn 2012, a arweiniodd at gynhadledd genedlaethol, daeth yn amlwg o'r hyn yr oedd menywod ledled Cymru yn ei ddweud bod angen rhoi sawl newid ar waith er mwyn sichrau bod mwy o fenywod yn cael swyddi lle y maent yn gwneud penderfyniadau.

Y Fonesig Rosemary a sefydlodd Cawcws Menywod mewn Democratiaeth y Cynulliad. Dan ei chadeiryddiaeth hi, roedd y Cawcws yn cynnwys un cynrychiolydd o bob un o bedair plaid wleidyddol y Cynulliad, fel bod modd gwneud penderfyniadau gwybodus a chymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod cynrychiolaeth deg o fenywod mewn democratiaeth yng Nghymru. Cyhoeddodd y Cawcws ei adroddiad ym mis Mawrth 2015.

Cynhaliodd y Fonesig Rosemary gyfres o ddarlithoedd, a gyflwynwyd gan fodelau rôl benywaidd ysbrydoledig o sectorau sydd wedi'u dominyddu'n draddodiadol gan ddynion. Yn eu plith roedd Helen Clark, cyn-Brif Weinidog Seland Newydd; Shami Chakrabarti, yr ymgyrchydd hawliau dynol; Janet Street Porter, y darlledydd; y Farwnes Susan Greenfield, y gwyddonydd blaenllaw; Sylvia Ann Hewlett, yr economegydd; a Julia Gillard, cyn-Brif Weinidog Awstralia. Cyfrannodd bob un ohonynt rywbeth gwahanol, gan ennyn brwdfrydedd llawer o fenywod i gymryd rhan.

Ewch i sianel YouTube y Cynulliad i weld y gyfres ddarlithoedd Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus.

Ym mis Ionawr 2014, lansiodd y Fonesig Rosemary Gynllun Datblygu Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus. Roedd y cynllun yn darparu cyfleoedd mentora, cysgodi a hyfforddiant ar gyfer nifer o fenywod o bob rhan o Gymru am gyfnod o 18 mis. Yn ystod y cynllun, ac yn syth ar ei ôl, gwnaeth 85 y cant o'r cyfranogwyr gais am swydd mewn bywyd cyhoeddus, gyda 31 y cant yn gwneud cais am fwy nag un swydd. Hyd yma, mae dros hanner wedi bod yn llwyddiannus – gyda rhai ohonynt hyd yn oed yn ennill mwy nag un swydd. 

Bu'r Fonesig Rosemary hefyd yn gweithio gyda Merched yn Gwneud Gwahaniaeth i greu porthol ar-lein, a oedd yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am swyddi gwag a chyfleoedd mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru, blogiau ar bynciau amserol, proffiliau bob mis o fenywod ysbrydoledig a modelau rôl, a gwybodaeth am y Cynllun Datblygu Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus.

Daeth yr ymgyrch i ben ym mis Mawrth 2016, ond bydd cynnwys y porthol yn parhau i fod ar gael tan yr haf 2016. Bydd Merched yn Gwneud Gwahaniaeth yn ail-lansio eu gwefan cyn mis Medi 2016, gyda'r nod o hyrwyddo gwaith yr ymgyrch yn annibynnol.

 

Diffyg Democrataidd

Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, addawodd y Fonesig Rosemary y byddai'n gweithio i fynd i'r afael â'r "Diffyg Democrataidd". Mae'r term "Diffyg Democrataidd" yn cyfeirio at y ffaith bod nifer fawr o bobl yng Nghymru yn cael eu newyddion a'u gwybodaeth am faterion cyfoes gan ddarlledwyr, papurau newydd a sefydliadau yn y cyfryngau yn y DU, sy'n aml yn anwybyddu'r gwahaniaeth rhwng hinsawdd polisi cyhoeddus Cymru a Lloegr. I'r perwyl hwn, ceisiodd sefydlu partneriaethau gyda'r cyfryngau ar lefel y DU, Cymru ac ar lefel hyperleol, yn ogystal â sefydliadau academaidd a chyfryngau eraill. Y prif nod oedd annog mwy o sylw at waith y Cynulliad Cenedlaethol i gynulleidfaoedd yng Nghymru a sicrhau bod y mater yn parhau i fod ar frig yr agenda wleidyddol.

Roedd y gwaith hwn yn cynnwys:

  • Ymgysylltu â ffigurau blaenllaw yng ngyfryngau'r DU, gan gynnwys Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, sydd bellach yn ymddangos gerbron Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad yn rheolaidd er mwyn i'r pwyllgor allu craffu arnynt o ran darpariaeth y BBC ar gyfer ei gynulleidfaoedd Cymraeg, ar lefel Cymru ac ar lefel y rhwydwaith;
  • Cynnal seminarau lefel uchel ar gyfer y cyfryngau i dynnu sylw at y mater hwn gyda phanelwyr yn cynnwys Kevin Maguire, Golygydd Cysylltiol y Daily Mirror; Peter Knowles, pennaeth BBC Parliament; a Peter Riddell, Cyfarwyddwr Sefydliad y Llywodraeth a chyn-ddirprwy olygydd y Times;
  • Datblygu partneriaethau gyda'r sector hyperleol sy'n dod i'r amlwg drwy drefnu "diwrnodau newyddion" yn y De a'r Gogledd i weithio gyda'r sector hwn i annog mwy o sylw at waith y Cynulliad;
  • Datblygu partneriaethau gyda Phrifysgolion, gan gynnwys Canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Glyndŵr i gynyddu ymgysylltiad hyperleol;
  • Gweithio gyda phartneriaid academaidd, ynghyd ag undebau, y cyfryngau a sefydliadau newyddiadurol eraill i ddatblygu cyfleoedd i newyddiadurwyr ar bob lefel ddysgu mwy am waith y Cynulliad; a
  • Pharhau i sicrhau llais cryf i Gymru yn y broses o adolygu Siarter y BBC, gan gynnwys cyflwyniadau i ymchwiliadau pwyllgorau'r Cynulliad a Thŷ'r Cyffredin ar y mater hwn.

 

Ymgysylltu â phobl ifanc

Ym mis Gorffennaf 2014, llofnododd y Fonesig Rosemary ac Arweinwyr Pedair Plaid y Cynulliad y Siarter Ymgysylltu â Phlant a Phobl Ifanc. Roedd hyn yn sail i ymrwymiad y Cynulliad i ymgysylltu fwyfwy â phobl ifanc yng Nghymru drwy roi cyfle iddynt fynegi barn a chael eu gwerthfawrogi yng nghalon democratiaeth Cymru, gan alluogi pobl ifanc i gyfrannu at ddyfodol Cymru a'i democratiaeth.

Mae gwaith y Cynulliad ynghylch ymgysylltu â phobl ifanc yn adeiladu ar sylfaen gadarn y gwasanaeth addysg, a chafodd ei lywio gan safbwyntiau tua 3,000 o bobl ifanc, a gasglwyd yn 2013. Mae mwy na 10,000 o bobl ifanc wedi cymryd rhan uniongyrchol yng ngwaith pwyllgorau'r Cynulliad yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, a chymerodd dros 10,000 o blant a phobl ifanc 11-25 oed ran yn yr ymgynghoriad Pleidleisio@16, a ddenodd yr ymateb mwyaf erioed i un o ymgynghoriadau'r Cynulliad. Nododd 53 y cant o bobl ifanc eu bod eisiau gostwng yr oedran pleidleisio i 16, a chwaraeodd y Fonesig Rosemary rôl allweddol wrth leisio'r farn hon i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru cyn etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2016 a chyn chyflwyno Bil Cymru.