Mesur Addysg (Cymru) 2011

Cyhoeddwyd 19/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/12/2024   |   Amser darllen munudau

Yr Aelod sy’n gyfrifol am y Mesur: Leighton Andrews AC - Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Dyddiad cyflwyno: 6 Rhagfyr 2010

Dyddiad y Gymeradwyaeth Frenhinol: 10 Mai 2011


Mae’r Mesur hwn yn rhoi cyfres o bwerau a dyletswyddau ar waith er mwyn sicrhau bod cydweithio’n rhywbeth sy’n digwydd yn gyffredin yn y system addysg er mwyn gwella llywodraethu ysgolion a symleiddio’r broses o gynllunio lleoedd ysgolion yng Nghymru.Mae’r Mesur yn gwneud darpariaeth ar gyfer:

  • Ysgogi cydlafurio rhwng awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a Sefydliadau Addysg Bellach;
  • Rhoi pŵer i awdurdodau lleol sefydlu ffederasiwn o ysgolion; 
  • Hyfforddi llywodraethwyr ysgolion a gwella gwasanaeth clercio cyrff llywodraethu; a
  • Atal ysgolion yn y dyfodol rhag newid categori i fod yn ysgolion sefydledig, ac atal ysgolion sefydledig newydd rhag cael eu sefydlu.

 

Mesur fel y'i cyflwynwyd – 6 Rhagfyr 2010

Memorandwm Esboniadol yn y Cyflwyniad

Ar 30 Tachwedd 2010, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog, i gyfeirio'r Mesur arfaethedig at Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5, i ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.

Ystyriaeth Cyfnod 1 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5

Adroddiad Cyfnod 1 ar y Mesur Addysg (Cymru) 2011 arfaethedig – 21 January 2011

Ystyriaeth Cyfnod 2 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5

Cynhaliwyd Ystyriaeth Cyfnod 3 a Chyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Mawrth 2011

Mesur fel y’i deddfwyd (legislation.gov.uk)

 

Chwilio am ragor o ddogfennau sy’n ymwneud â’r Mesur hwn