Yr Aelod sy’n gyfrifol am y Mesur: Jane Davidson AC - Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Dyddiad cyflwyno: 22 Chwefror 2010
Dyddiad y Gymeradwyaeth Frenhinol: 15 Rhagfyr 2010
Mae’r Mesur hwn yn gwneud darpariaeth i leihau’r gwastraff a’r sbwriel a gynhyrchir yng Nghymru a chyfrannu at ddatblygu trefniadau mwy effeithiol a chynaliadwy o reoli gwastraff yng Nghymru. I gyflawni’r amcanion hyn, mae’r Mesur yn:
- Diwygio Atodlen 6 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 i roi i Weinidogion Cymru y pŵer i’w gwneud yn ofynnol i fanwerthwyr gyfrannu elw net o werthu bagiau siopa untro i ddibenion neu bersonau penodol;
- Pennu targedau statudol i sicrhau bod canran o wastraff bwrdeistrefol awdurdod lleol yn cael ei ailgylchu, gyda’r nod o sicrhau bod Cymru’n dod yn “gymdeithas sy’n ailgylchu llawer”;
- Darparu pwerau i Weinidogion Cymru roi targedau gwastraff eraill ar waith sydd i’w cyrraedd gan awdurdodau lleol ac i roi cosb ariannol os ydynt yn peidio â chydymffurfio;
- Darparu pwerau i Weinidogion Cymru gyflwyno gwaharddiadau neu gyfyngiadau ar dirlenwi rhai deunyddiau penodol yng Nghymru; a
- Darparu pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau am gynllun ffioedd a chodi tâl ar gyfer Cynlluniau Rheoli Gwastraff Safleoedd ar gyfer y sector adeiladu a dymchwel yng Nghymru.
Mesur fel y'i cyflwynwyd – 22 Chwefror 2010
Memorandwm Esboniadol yn y Cyflwyniad
Ar 9 Chwefror 2010, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog, i gyfeirio’r Mesur arfaethedig i Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4, er mwyn iddo ystyried a chyflwyno adroddiad ar yr egwyddorion cyffredinol.
Ystyriaeth Cyfnod 1 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4
Adroddiad Cyfnod 1 ar y Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 arfaethedig – 25 Mehefin 2010
Ystyriaeth Cyfnod 2 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4
Cynhaliwyd Ystyriaeth Cyfnod 3 a Chyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn ar 2 Tachwedd 2010
Mesur fel y’i deddfwyd (legislation.gov.uk)
chevron_right