Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Cyhoeddwyd 19/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/09/2022   |   Amser darllen munud

Yr Aelod sy’n gyfrifol am y Mesur: Carl Sargeant AC, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Dyddiad cyflwyno: 12 Gorffennaf 2010

Dyddiad y Gymeradwyaeth Frenhinol:10 Mai 2011


Nod y Mesur hwn yw atgyfnerthu strwythurau llywodraeth leol yng Nghymru a gwella’r modd y meant yn gweithio er mwyn sicrhau bod cynghorau lleol yn estyn allan at bob sector o’r cymunedau a wasanaethir ganddynt, ac yn ymgysylltu â hwy.


Prif amcanion Llywodraeth Cymru wrth weithredu’r Mesur yw:

  • Ehangu a chynyddu cyfranogiad mewn llywodraeth leol drwy ganiatáu camau a fydd yn helpu i gael gwared ar y rhwystrau a’r anghymhellion sy’n atal pobl rhag sefyll mewn etholiadau cynghorau lleol;
  • Caniatáu adolygu a gwella’r strwythurau llywodraethu a gyflwynwyd drwy gyfrwng Deddf Llywodraeth Leol 2000 fel y bo’r strwythurau hynny’n gweddu’n well i amgylchiadau llywodraeth leol yng Nghymru;
  • Cryfhau rôl cynghorwyr nad ydynt yn aelodau o weithrediaethau’r awdurdodau lleol (“aelodau’r meinciau cefn”) mewn perthynas â chraffu ar wasanaethau lleol;
  • Datblygu a chryfhau rôl cynghorau cymuned yng Nghymru, gan gynnwys eu galluogi i gyflenwi ystod ehangach o wasanaethau ac i weithredu’n ehangach yn lleol, ac i fod yn fwy effeithiol o ran eu rôl fel cynrychiolwyr ac o ran eu gallu i weithio mewn partneriaeth â chyrff eraill;
  • Diwygio’r system ar gyfer pennu lwfansau cynghorwyr; a 
  • Caniatáu i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau statudol ar gydlafurio rhwng awdurdodau lleol, a chydlafurio rhwng awdurdodau lleol a chyrff eraill;
  • Mae’r Mesur hefyd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru sefydlu awdurdodau lleol newydd drwy uno dau neu dri awdurdod presennol. Fodd bynnag, dim ond os yw Gweinidogion Cymru yn fodlon na fydd yn debygol y caiff llywodraeth leol effeithiol ei chyflawni yn un o’r awdurdodau lleol dan sylw y caniateir defnyddio pwerau i sicrhau gwelliant parhaus a chydlafurio, mewn rhai achosion, rhwng awdurdodau lleol.

Mesur fel y'i cyflwynwyd – 12 Gorffennaf 2010

Memorandwm Esboniadol yn y Cyflwyniad

Ar 6 Gorffennaf, 2010, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog, i gyfeirio’r Mesur arfaethedig i Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3, i ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.

Ystyriaeth Cyfnod 1 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 

Adroddiad Cyfnod 1 ar y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 arfaethedig – 16 Rhagfyr 2010

Ystyriaeth Cyfnod 2 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3

Cynhaliwyd Ystyriaeth Cyfnod 3 a Chyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Mawrth 2011

Mesur fel y’i deddfwyd (legislation.gov.uk)

 

Chwilio am ragor o ddogfennau sy’n ymwneud â’r Mesur hwn