Y Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009

Cyhoeddwyd 19/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/12/2024   |   Amser darllen munudau

Yr Aelod sy’n gyfrifol am y Mesur: Jenny Randerson AC

Dyddiad cyflwyno: 14 Mawrth 2008

Dyddiad y Gymeradwyaeth Frenhinol: 15 Hydref 2009


Diben y Mesur hwn yw cynnig polisi cyfannol, cynhwysfawr yn ymwneud â maeth sy’n sicrhau bod bwyta’n iach yn cael ei hybu a’i gefnogi ar gyfer yr holl ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir gan Awdurdod Addysg Lleol yng Nghymru.

Mae’r Mesur:

  • yn gosod dyletswydd ar ysgolion ac awdurdodau addysg lleol i hybu bwyta ac yfed yn iach mewn ysgolion;
  • yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i nodi’n fanwl gynnwys y bwyd a gaiff ei weini mewn ysgolion, yn cynnwys pwerau i bennu lefelau uchafswm braster, halen a siwgr mewn bwyd a ddarperir ar gyfer disgyblion;
  • yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod dŵr yfed ar gael am ddim; a
  • yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn annog disgyblion i fwyta cinio ysgol, ac yn arbennig o ran prydau ysgol a llaeth am ddim.

 

Mesur fel y'i cyflwynwyd – 14 Mawrth 2008

Memorandwm Esboniadol yn y Cyflwyniad

Ystyriaeth Cyfnod 1 gan y Pwyllgor ar Y Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 arfaethedig

Adroddiad Cyfnod 1 ar y Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 arfaethedig – 06 Hydref 2008

Ar 26 Tachwedd 2008, mae’r Pwyllgor Busnes, Yn unol â Rheol Sefydlog, wedi cytuno i gyfeirio’r Mesur arfaethedig at Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1 ar gyfer trafodion Cyfnod 2.

Ystyriaeth Cyfnod 2 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1

Cynhaliwyd Ystyriaeth Cyfnod 3 a Chyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Gorffennaf 2009

Mesur fel y’i deddfwyd (legislation.gov.uk)

 

Chwilio am ragor o ddogfennau sy’n ymwneud â’r Mesur hwn