Mae system cyfarfodydd Busnes y Senedd a rheoli dogfennau (SBMS) yn ddarn hanfodol o seilwaith technegol a ddefnyddir ar gyfer Busnes ffurfiol y Senedd. Mae disgwyl i'r system bresennol gael ei hadnewyddu ar ddiwedd y Chweched Senedd, i fod yn barod ar gyfer dechrau'r Seithfed Senedd.
Er mwyn cynnal profion cadarn ynghylch barn, gwahoddir defnyddwyr i rannu eu profiad o ddefnyddio'r system, a rhoi sylwadau arni, fel bod gofynion defnyddwyr cyfredol yn gwbl glir i ni.