Trafodion deddfwriaethol yn y Siambr

Cyhoeddwyd 01/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/01/2026   |   Amser darllen munudau

Fel rheol, wrth i ddeddfwriaeth fynd ar ei hynt drwy'r Senedd, bydd yn cael ei hystyried o leiaf unwaith yn y Cyfarfod Llawn. Bydd rhai mathau o is-ddeddfwriaeth, Biliau Senedd Cymru, a chynigion cydsyniad sy'n ymwneud â Biliau Senedd y Deyrnas Unedig, i gyd yn cael eu hystyried o leiaf unwaith yn y Siambr.

Is-ddeddfwriaeth

Mae Deddfau Senedd Cymru a Deddfau Senedd y DU yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud deddfwriaeth fanylach, sef is-ddeddfwriaeth neu ddeddfwriaeth eilaidd.

Y weithdrefn gymeradwyo

Rhaid i'r Senedd gymeradwyo cyfran fach o is-ddeddfwriaeth yn ffurfiol yn y Cyfarfod Llawn cyn iddi ddod i rym.

Y weithdrefn gadarnhau

Fel rheol, dim ond mewn achosion brys y defnyddir y weithdrefn gadarnhau. Gall yr amserlenni amrywio ond, fel rheol, mae is-ddeddfwriaeth o'r math hwn yn cael ei gwneud gan Weinidogion Cymru ac yn dod i rym bron ar unwaith. Fodd bynnag, rhaid i'r Senedd gymeradwyo'r offeryn statudol (fel arfer o fewn 28 diwrnod) er mwyn i’r offeryn barhau i fod yn gyfraith.

Y weithdrefn annilysu

Mae’r rhan fwyaf o offerynnau statudol Cymreig yn ddarostyngedig i’r weithdrefn annilysu. Mae hyn yn golygu y daw’r ddeddfwriaeth i rym oni bai bod Aelod yn cyflwyno cynnig yn ei herbyn (“cynnig i annilysu”) a bod y cynnig hwnnw'n cael ei drafod o fewn 40 diwrnod i'r offeryn gael ei wneud (ac eithrio cyfnodau pan fo'r Senedd ar doriad am fwy na phedwar diwrnod). Os yw'r Senedd yn derbyn y cynnig a gyflwynwyd yn erbyn y ddeddfwriaeth, caiff y ddeddfwriaeth ei hannilysu a bydd yn peidio â chael effaith.

Biliau

Cynnig ar gyfer cyfraith newydd yw Bil, neu gynnig i newid cyfraith sy'n bod eisoes. Bydd y cynnig yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd er mwyn cynnal dadl yn ei gylch. Fel rheol, ystyrir biliau mewn pwyllgor ac yn y Cyfarfod Llawn. Bydd y rhan fwyaf o Filiau'n mynd drwy'r camau hyn:

  • Cyfnod 1 - ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytuno arnynt;
  • Cyfnod 2 - pwyllgor o Aelodau'r Senedd yn ystyried y Bil yn fanwl ynghyd ag unrhyw welliannau a gyflwynwyd;
  • Cyfnod 3 - y Cyfarfod Llawn yn ystyried y Bil yn fanwl ynghyd ag unrhyw welliannau a ddetholwyd
  • Cyfnod 4 - derbyn testun terfynol y Bil.

 

Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol

Pan fydd Senedd y Deyrnas Unedig am ddeddfu ar bwnc sydd eisoes wedi'i ddatganoli i'r Senedd, yn ôl y confensiwn, mae gofyn iddi gael cydsyniad y Senedd cyn derbyn y ddeddfwriaeth dan sylw. Rhoddir cydsyniad o'r fath drwy gytuno ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol (LCM) yn y Cyfarfod Llawn.