- Enillydd y balot: Mark Isherwood AS, Cynnig 033, Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru)
O bryd i'w gilydd, rhaid i'r Llywydd gynnal balot i benderfynu ar enw Aelod, heblaw aelod o'r Llywodraeth, a gaiff ofyn am gytundeb y Senedd i gyflwyno Bil.
Rhaid i Aelod ddarparu "gwybodaeth cyn y balot" yn nodi bwriad y Bil arfaethedig.
Os bydd y Senedd yn cytuno i gyflwyno Bil o'r fath, gall enillydd y Balot ymgynghori ar ei gynigion cyn cyflwyno'r Bil yn ffurfiol.
Prif Gerrig Milltir | Manylion |
---|---|
Dyddiad y balot |
24 Ebrill 2024 |
Dadl lle bydd y Senedd yn trafod cyflwyno Bil i roi effaith i’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol
|
Memorandwm Esboniadol i'r cynnig a gyflwynwyd ar 31 Mai 2024 |
Caniatâd i frwrw ati |
Y Cyfarfod Llawn, 19 Mehefin 2024 |
Ymgynghoriad |
Ar 8 Tachwedd 2024, lansiodd Mark Isherwood AS ymgynghoriad ar ei gynnig ar gyfer Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru), yn gwahodd pobl i roi eu barn ar amcanion polisi'r gyfraith arfaethedig. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 31 Ionawr 2025. |
Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) Drafft
|
Gan adeiladu ar yr amcanion polisi a'r ymgynghoriad blaenorol, mae Mark Isherwood AS wedi llunio Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) drafft a'r Nodiadau Esboniadol cysylltiedig. |
Dyddiad Cyflwyno'r Bil |
14 Gorffennaf 2025 |
Gwybodaeth am daith ddeddfwriaethol y Bil ar ôl ei gyflwyno |
Craffu ar Fil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru). Cyflwynwyd y Bil ar 14 Gorffennaf 2025, ac mae ar gael yn Iaith Arwyddion Prydain. |