Is-ddeddfwriaeth

Cyfraith sy'n cael ei gwneud gan Weinidogion (neu gyrff eraill) gan ddefnyddio pwerau a roddir iddynt gan ddeddfwriaeth sylfaenol, fel Deddfau’r Senedd, yw is-ddeddfwriaeth.

Gelwir y ddeddfwriaeth sylfaenol yn Ddeddf alluogi, gan ei bod yn galluogi'r is-ddeddfwriaeth i gael ei gwneud. Yng Nghymru, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud is-ddeddfwriaeth gan ddefnyddio pwerau a roddir iddynt mewn deddfwriaeth sylfaenol megis Deddfau’r Senedd, Mesurau'r Cynulliad a Deddfau Senedd y DU.

Cyfeirir at is-ddeddfwriaeth weithiau fel deddfwriaeth ddirprwyedig, am fod y ddeddf alluogi yn dirprwyo'r pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth. Cyfeirir hefyd at is-ddeddfwriaeth fel deddfwriaeth eilaidd.

O 1 Ionawr 2026, rhaid gosod pob offeryn statudol Cymreig gerbron y Senedd.

Enghraifft o is-ddeddfwriaeth

Mae adran 33(3) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn datgan:

“Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y cymwysterau a’r amodau eraill sydd i’w bodloni gan unigolyn y caniateir iddo fod yn arolygydd.”

Y Ddeddf alluogi yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Mae adran 33(3) o'r Ddeddf honno yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth (ar ffurf rheoliadau) ynghylch cymwysterau arolygwyr gofal cymdeithasol. Heb y pŵer galluogi hwnnw, ni allai Gweinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth ynghylch cymwysterau arolygwyr gofal cymdeithasol.

Gwneir y rhan fwyaf o is-ddeddfwriaeth yng Nghymru ar ffurf offerynnau statudol, fel rheoliadau neu orchmynion. Offerynnau statudol Cymreig yw'r rhai sy’n cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig arall yn unig.

Mae codau ymarfer, rheolau, cynlluniau a chanllawiau yn fathau eraill o is-ddeddfwriaeth.

Mae rhai offerynnau statudol hefyd yn cael eu gwneud ar y cyd gan Weinidogion Cymru a Gweinidogion Llywodraeth y DU.

Offerynnau Statudol

Mae'r prosesau ar gyfer gwneud a chyhoeddi offerynnau statudol Cymreig wedi'u nodi yn Neddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. Dyma’r gweithdrefnau sy'n cael eu defnyddio gan y Senedd i graffu ar offerynnau statudol Cymreig:

  • gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd;
  • gweithdrefn gadarnhau'r Senedd; a
  • gweithdrefn annilysu’r Senedd.

Nid yw rhai offerynnau statudol yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn. Mae eraill yn ddarostyngedig i weithdrefnau penodol sydd wedi'u nodi yn y Ddeddf alluogi.

O 1 Ionawr ymlaen, newidiodd y labeli a roddir i weithdrefnau craffu'r Senedd ar gyfer offerynnau statudol Cymreig. Rhagor o wybodaeth.

Gweler isod y cyfarwyddiadau statudol sy'n ddarostyngedig i'r gweithdrefnau hyn, a rhagor o wybodaeth am y gweithdrefnau eu hunain.

Y “pwyllgor cyfrifol”

Mae Rheolau Sefydlog y Senedd yn nodi bod rhaid i bwyllgor ystyried yr holl offerynnau statudol neu offerynnau statudol drafft y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol eu gosod gerbron y Senedd. Y “pwyllgor cyfrifol” yw’r enw ar y pwyllgor hwn.

Y pwyllgor cyfrifol yn y Chweched Senedd yw'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

Mae'r pwyllgor cyfrifol yn gyfrifol am drafod a chyflwyno adroddiadau i’r Senedd yn erbyn meini prawf a nodir yn y Rheolau Sefydlog canlynol:

  • Rheol Sefydlog 21.2 – er enghraifft, materion a allai godi amheuaeth ynghylch cyfreithlondeb offeryn statudol neu a yw offeryn statudol wedi’i lunio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Rhaid i'r Pwyllgor drafod a chyflwyno adroddiad ar y materion hyn, a elwir yn “bwyntiau adrodd technegol”.
  • Rheol Sefydlog 21.3 – er enghraifft, materion sy'n debygol o fod o ddiddordeb i'r Senedd, fel offeryn statudol nad yw'n gweithredu polisi yn y ffordd a nodwyd neu yr ystyrir ei fod yn wleidyddol gynhennus neu'n arwyddocaol. Rhaid i'r Pwyllgor drafod a chyflwyno adroddiad ar y materion hyn, a elwir yn “bwyntiau adrodd o ran rhinweddau”.

Os yw'r Pwyllgor yn fodlon ar offeryn statudol, bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi adroddiad sy'n crynhoi'r offeryn. Cyfeirir at hyn fel “adroddiad clir”.

Os nad yw’r Pwyllgor yn fodlon ar offeryn statudol, bydd yn cyhoeddi adroddiad yn cynnwys pwyntiau adrodd a nodir yn unol â Rheol Sefydlog 21.2 a/neu Reol Sefydlog 21.3. Mae adroddiadau o'r fath yn hysbysu'r Senedd am unrhyw faterion sy'n codi o dan y Rheolau Sefydlog hynny mewn perthynas ag offerynnau statudol. Fodd bynnag, nid yw adroddiadau'r Pwyllgor yn cyfrif fel unrhyw fath o feto.

O dan Reol Sefydlog 21.4, rhaid i'r Pwyllgor gyflwyno adroddiad o fewn 20 diwrnod i osod yr offeryn statudol gerbron y Senedd.

Mae'r gweithdrefnau sy'n berthnasol o ran y Senedd yn ystyried offerynnau statudol wedi'u nodi yn Rheol Sefydlog 27.

Mae’r Pwyllgor yn monitro’n barhaus pryd a sut y mae Llywodraeth Cymru yn cywiro gwallau mewn is-ddeddfwriaeth a nodwyd gan y Pwyllgor yn ei adroddiadau i’r Senedd.

Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad hefyd yn craffu ar Filiau, memoranda cydsyniad deddfwriaethol a materion eraill sydd o fewn ei gylch gorchwyl. Ceir rhagor o wybodaeth ar dudalennau gwe y Pwyllgor.

Offerynnau statudol yn ôl gweithdrefn graffu

Offerynnau statudol Cymreig sy'n ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo'r Senedd

O dan y weithdrefn gymeradwyo, caiff yr offeryn statudol ei osod gerbron y Senedd ar ffurf ddrafft, ac ni all gael effaith oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r drafft. 

Offerynnau statudol Cymreig sy'n ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhau'r Senedd

O dan y weithdrefn gadarnhau, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud yr offeryn statudol ac yna’n ei osod gerbron y Senedd. Fodd bynnag, ni all yr offeryn statudol barhau i fod yn gyfraith oni bai bod y Senedd yn ei gymeradwyo.

Offerynnau statudol Cymreig sy'n ddarostyngedig i weithdrefn annilysu'r Senedd

O dan y weithdrefn annilysu, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud yr offeryn statudol ac yna'n ei osod gerbron y Senedd. Yna, mae gan y Senedd gyfnod o 40 diwrnod i annilysu'r offeryn statudol. 

Is-ddeddfwriaeth nad yw'n ddarostyngedig i unrhyw weithdrefnau

Mae rhai mathau o is-ddeddfwriaeth, megis Gorchmynion Cychwyn, nad ydynt yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefnau ffurfiol ar wahân i’r ffaith bod rhaid iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.

Is-ddeddfwriaeth sy'n ddarostyngedig i weithdrefnau eraill

Mae cyfran fach iawn o is-ddeddfwriaeth yn destun gweithdrefnau penodol a amlinellir yn y ddeddf alluogi.

Rheoliadau a wneir o dan Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 yn ddarostyngedig i sifftio

Mae Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 yn rhoi pwerau  i Weinidogion y DU a Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth bresennol.

Is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU yn gweithredu gyda'i gilydd

Weithiau, bydd y ddeddf alluogi yn dweud bod yn rhaid i is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud ar y cyd, gyda Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU yn gweithredu gyda'i gilydd.

Is-ddeddfwriaeth arall a gwybodaeth yn ei chylch

Is-ddeddfwriaeth sy'n torri'r “rheol 21 diwrnod”

Roedd yr is-ddeddfwriaeth hon yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol (os y’i gwnaed cyn mis Ionawr 2026) neu'r weithdrefn annilysu (os y’i gwnaed ar ôl Ionawr 2026), ac ni chafodd ei gosod gerbron y Senedd o leiaf 21 diwrnod cyn iddi ddod i rym, gan dorri'r “rheol 21 diwrnod”.

Offerynnau Statudol a osodwyd yn rhy hwyr yn y Bumed Senedd i'r Pwyllgor graffu arni

Gosodwyd y ddeddfwriaeth a ganlyn gerbron y Senedd yn rhy hwyr i ganiatáu iddi gael ei hystyried gan Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Bumed Senedd.

Is-ddeddfwriaeth sy'n diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006

Mae adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i'r Brenin, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, ddiwygio Atodlen 7A neu 7B i Ddeddf 2006, ar yr amod bod drafft o'r Gorchymyn wedi cael ei gymeradwyo yn gyntaf gan y Senedd a dau Dŷ Senedd y DU.

Busnes Blaenorol y Senedd