Cynnwys
— Trosolwg
— Sut i baratoi eich tystiolaeth
Cyflwyno eich tystiolaeth
Mae pwyllgorau eisiau gwneud yn siŵr bod lleisiau pawb yn cael eu clywed. Cysylltwch â thîm y pwyllgor os:
- hoffech roi tystiolaeth fideo neu sain (peidiwch â chynnwys y rhain o fewn ffeiliau eraill),
- ydych yn ei chael hi’n anodd rhoi tystiolaeth neu’n ansicr beth i’w gynnwys,
- ydych eisiau anfon tystiolaeth ar ôl dyddiad cau yr ymgynghoriad, neu
- os ydych angen cywiro camgymeriad yn eich tystiolaeth.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt pob pwyllgor ar eu tudalennau gwe, neu cysylltwch â'r brif ddesg gymorth ar 0300 200 6565 / cyswllt@senedd.cymru neu defnyddiwch y ffurflen gyswllt hon.
Pan fo pwyllgor yn chwilio am ymatebion i gwestiynau penodol, neu pan fydd yn rhagweld y caiff nifer fawr iawn o ymatebion, efallai y gofynnir i chi lenwi ffurflen ar-lein yn hytrach nag anfon eich tystiolaeth drwy e-bost.
A allaf gadw’r ffurflen ar ei hanner a dod yn ôl ati?
Nid yw'r swyddogaeth hon ar gael yn Microsoft Forms ar hyn o bryd. Yn hytrach, rydym yn cynnig templed Ffurflen yn Word, fel y gallwch baratoi eich atebion ymlaen llaw. Gallwch gludo ymatebion terfynol ar y Ffurflen pan fyddwch yn barod i wneud hynny.
A oes cyfyngiad ar nifer y llythrennau ar y Ffurflen?
Mae gan Microsoft Forms gyfyngiad o 4,000 o lythrennau neu tua 1,000 o eiriau fesul cwestiwn.
Dylech geisio bod yn gryno yn eich ateb i gwestiwn penodol.
Os ydych am ddweud rhagor na’r mwyafswm o eiriau neu lythrennau a ganiateir mewn cwestiwn, ychwanegwch fanylion pellach yn y cwestiwn olaf “Unrhyw beth arall” ar ddiwedd yr arolwg.
Sut allaf ychwanegu Troednodiadau at fy ymateb?
Gallwch adael marcwyr o fewn y testun e.e. (1) ac yna ychwanegu'r sylw/cyfeirnod perthnasol at ddiwedd eich ymateb.
Pan gaiff eich ymateb ei gyhoeddi, bydd pob cyfeiriad yn cael ei ddiweddaru’n linc.
(1) Rhywbeth yn debyg i hyn https://senedd.cymru/pwyllgorau
A allaf gyflwyno delweddau neu graffeg fel rhan o'm tystiolaeth?
Gall mapiau, siartiau a graffeg fod yn ddefnyddiol wrth eu cyflwyno ochr yn ochr â thystiolaeth, ond yn aml nid ydynt yn y fformat cywir i fodloni ein gofynion cyhoeddi.
I gyflwyno gwybodaeth ychwanegol ar ffurf map, siart neu graffig, dylech e-bostio hwn at dîm y pwyllgor i'w gynnwys gyda'ch cyflwyniad.
Os gofynnwyd i chi anfon eich tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgor drwy e-bost, cynhwyswch y wybodaeth a ganlyn yn eich neges e-bost eglurhaol:
- Dywedwch pwy ydych chi, gan gynnwys eich enw a'ch cyfeiriad e-bost.
- Dywedwch wrthym os ydych yn ymateb fel gweithiwr proffesiynol neu yn ymateb yn bersonol, ac os ydych yn cynrychioli sefydliad.
- P’un a hoffech i’ch tystiolaeth ysgrifenedig fod yn gyfrinachol (ac felly y bydd eich tystiolaeth yn cael ei darllen ond nid ei chyhoeddi), gyda rhesymau dros y cais.
- P’un a hoffech i’ch tystiolaeth fod yn ddienw, sef, heb i’ch enw gael ei gyhoeddi.
- Cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd oed, neu,
- os ydych o dan 13 mlwydd oed, caniatâd (e.e. drwy e-bost) gan eich rhiant neu warcheidwad i chi gyflwyno tystiolaeth.
- neu os ydych rhwng 13 ac 17 mlwydd oed, nid oes angen caniatâd eich rhieni neu warcheidwad, ond ni fyddwn yn cyhoeddi eich enw ochr yn ochr â'ch tystiolaeth.
- Cadarnhad bod gennych ganiatâd gan unrhyw un y gellir ei adnabod yn eich tystiolaeth.
Mae'r canllawiau hyn yn ymwneud yn bennaf â thystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir i bwyllgor drwy e-bost, mewn dogfen Word.
Mae’r Senedd yn gwneud ei gorau i sicrhau bod ei thudalennau gwe yn hygyrch. Mae hyn er mwyn:
- galluogi pobl ag anableddau i ganfod, deall, llywio a rhyngweithio â gwybodaeth ar y we; ac
- ymateb i anghenion pobl sy’n defnyddio cysylltiadau rhyngrwyd araf, neu’n defnyddio dyfeisiau symudol.
Gallwch chi helpu’r Senedd i fodloni canllawiau hygyrchedd cynnwys ar y we (a galluogi rhagor o bobl i gael mynediad at eich tystiolaeth) drwy ddilyn y canllawiau isod.
Sicrhewch eich bod yn:
- osgoi acronymau a byrfoddau (os byddwch yn eu defnyddio, sicrhewch eu bod yn cael eu hysgrifennu’n llawn y tro cyntaf i chi eu defnyddio);
- cyflwyno eich papur fel un ddogfen (dogfen Word os yn bosibl), gyda’r holl dablau, taenlenni ac atodiadau wedi’u cynnwys yn y papur;
- defnyddio penawdau er mwyn cael strwythur (rydym yn argymell defnyddio fformatio geiriau safonol Pennawd 1, Pennawd 2, ac ati);
- os ydych chi’n cynnwys lincs yn eich papur, dylid eu hysgrifennu fel disgrifiadau o ble y bydd darllenydd yn mynd, pe byddent yn dilyn y linc hwnnw (h.y. nid ‘cliciwch yma’);
- dylech ond gynnwys tablau pan fyddant yn angenrheidiol at ddibenion cyflwyno cynnwys strwythuredig. Os ydych chi’n defnyddio tablau, gwnewch yn siŵr bod y tabl yn y papur ei hun (h.y. peidiwch â chynnwys delwedd o dabl). Sicrhewch fod tabl yn cynnwys rhesi a cholofnau wedi’u labelu. Dylai unrhyw nodiadau ar y tabl fod fel testun ar wahân (h.y. ni ddylid eu cyflwyno drwy greu rhesi ychwanegol nad ydynt yn gysylltiedig â phenawdau’r colofnau). Os ydych chi’n darparu taenlenni Excel, gwnewch yn siŵr eu bod yn ‘barod i’w hargraffu’ fel y gellir cynhyrchu’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn hawdd i allbwn y gellir ei argraffu ar bapur A4, heb fod angen addasu’r data sydd wedi’i gynnwys ynddo;
- dylech gynnwys ‘alt-text’ ar gyfer unrhyw ddelweddau a ddefnyddir yn eich dogfen. Alt-text yw darn o destun ‘cudd’ sy’n disgrifio delwedd a ddefnyddir ar dudalen we neu gyfryngau electronig eraill, os nad yw’r gwyliwr yn gallu gweld y ddelwedd ei hun am unrhyw reswm. I ychwanegu Alt Text fel arfer bydd angen i chi (yn dibynnu ar eich meddalwedd) dde-glicio yn y llun, dewis 'Fformadu Llun,' ac yna'r eicon hwn ' (Cynllun a Phriodweddau). Yna byddwch chi’n gallu dewis ‘Alt Text.’ Os ydych chi’n ansicr ynghylch pa alt-text i'w ysgrifennu, rydym yn argymell ceisio dychmygu disgrifio’r ddelwedd i rywun dros y ffôn;
- dylech alinio testun â’r ymyl chwith;
- defnyddio ffont maint 12 o leiaf (lliw du);
- dylech ddefnyddio cyn lleied â phosibl o ddefnydd o ffont trwm, tanlinellu ac italig;
- defnyddiwch baragraffau wedi’u rhifo;
- defnyddiwch bapur maint A4 ar ffurf portread;
- dylech gynnal ymyl tudalen 1.5cm (mae troednodiadau’n iawn, ond gall penawdau/troedynnau achosi trafferthion);
- os dymunwch gynnwys rhifau tudalennau, gosodwch nhw ar yr ochr chwith neu'r ochr dde.
Sut i baratoi eich tystiolaeth
Cwestiynau cyffredin