Canllaw i dystion

Cyhoeddwyd 14/12/2023

Cynnwys

—  Trosolwg

—  Paratoi i fod yn dyst

—  Hygyrchedd

—  Mynd i gyfarfod pwyllgor fel tyst

—  Yn ystod cyfarfod pwyllgor

—  Ar ôl cyfarfod pwyllgor

 


 

Trosolwg

Beth yw tyst?

Mae ‘tyst’ yn rhywun sy'n mynd i gyfarfod pwyllgor i rannu ei farn, gwybodaeth, neu brofiadau ar fater y mae'r pwyllgor yn ei ystyried.

Caiff y wybodaeth y mae tyst yn ei rhannu mewn cyfarfod pwyllgor ei galw’n ‘dystiolaeth lafar’.

Nid yw'r un peth â bod yn ‘dyst’ mewn llys neu yn ystod achos – dim ond mater o rannu eich gwybodaeth, neu ddweud eich stori eich hun, ydyw hyn.

Daw tystion o lawer o gefndiroedd gwahanol. Gall y canlynol fod yn eu plith:

  • arbenigwyr yn eu maes, er enghraifft academyddion neu ymchwilwyr
  • cynrychiolwyr grwpiau o bobl, er enghraifft cyrff neu sefydliadau proffesiynol
  • aelodau o'r cyhoedd sydd â phrofiadau perthnasol i'w rhannu, er enghraifft defnyddwyr gwasanaeth iechyd neu bobl sy'n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus
  • swyddogion a gweinidogion y llywodraeth

 

Pwy all gael ei wahodd fel tyst?

Pwyllgorau’r Senedd sy’n penderfynu pwy y maen nhw yn eu gwahodd fel tystion. Maent yn penderfynu ar sail y canlynol:

  • pwy, yn eu barn nhw, fydd yn gallu rhoi mwy o wybodaeth iddyn nhw am y pwnc sydd o dan ystyriaeth ganddynt
  • lle, yn eu barn nhw, mae bylchau yn y wybodaeth y maen nhw eisoes wedi’i chasglu, gan gynnwys yn sgil ymgynghoriad cyhoeddus neu ymchwil

Gall ymateb yn ysgrifenedig i ymchwiliad, sy’n cael ei galw’n ‘dystiolaeth ysgrifenedig’, fod yn gam cyntaf i fod yn dyst, ond nid yw'n ofynnol. Nid yw rhoi tystiolaeth ysgrifenedig yn sicrhau y gofynnir i chi fod yn dyst.

Ni all pwyllgorau glywed gan bawb wyneb yn wyneb, ac yn aml bydd y dystiolaeth ysgrifenedig a anfonwch yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar y pwyllgor.

 

Safbwyntiau amrywiol

Mae'n bwysig i bwyllgorau glywed gan ystod eang o bobl am faterion sydd o dan ystyriaeth ganddynt.

Mae'n helpu pwyllgorau i ddeall yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu, a'r cyfleoedd y maen nhw’n eu nodi, o lawer o wahanol safbwyntiau.

Drwy ystyried y safbwyntiau lluosog hyn, gall pwyllgorau wneud argymhellion mwy gwybodus sy’n anelu at wella pethau i bobl.