- Mae Comisiwn y Senedd yn cyflogi pobl sy'n cefnogi gwaith y Senedd a'i Haelodau. Mae'r rhan fwyaf o'r swyddi wedi eu lleoli yng Nghaerdydd neu ogledd Cymru.
- Mae Aelodau'r Senedd hefyd yn gyflogwyr ac maent yn arferol yn cyflogi pobl yn eu hetholaethau ac ym Mae Caerdydd.
- Rydym yn gyfrifol am wneud penodiadau i rai swyddi cyhoeddus, i gyrff eraill ac i swyddi unigol.
Mae tri math o rôl rydym yn recriwtio ar eu cyfer, ac mae gan bob math gyflogwr gwahanol, sy'n golygu bod y telerau ac amodau cyflogaeth yn wahanol.
I bwy y gallaf weithio iddo?
Mae hyn yn cynnwys ystod eang o weithgareddau yn cynnwys:
- Darparu swyddfeydd, cyfleusterau, cyfarpar a gwybodaeth y mae eu hangen ar Aelodau’r Senedd i wneud eu gwaith;
- Cefnogi Pwyllgorau’r Senedd a’r Cyfarfod Llawn drwy roi cyngor ar weithdrefnau, cyngor cyfreithiol a chyngor arall;
- Darparu gwasanaethau cyfieithu, cyfieithu ar y pryd a gwasanaethau cofnodi sy’n sicrhau y gall y Senedd weithredu yn Gymraeg a Saesneg;
- Darparu gwybodaeth ac addysg am y Senedd i’r cyhoedd; a
- Darparu gwybodaeth ac addysg i’r cyhoedd am rôl seneddol y Senedd a thrwy drefnu ymweliadau â’r Senedd ac oddi yno.
Nid gweision sifil yw staff y Senedd. Maent yn annibynnol o’r Llywodraeth a gweithredant yn ddiduedd ar ran y Senedd.
Cyfleoedd Eraill
Prentisiaethau
Byddwch yn rhan o rywbeth y gallwch ymfalchïo ynddo
Mae pob prentisiaeth yn Senedd Cymru yn unigryw.
Ni waeth a oes gennych weledigaeth glir ar gyfer y dyfodol neu eich bod heb benderfynu eto beth hoffech ei wneud, mae gennym lawer o ffyrdd o'ch helpu i ddod o hyd i rywbeth addas i chi a fydd yn eich helpu i ragori.
Gan ddilyn rhaglen a gynlluniwyd yn ofalus, byddwch chi'n dysgu gan y bobl y byddwch chi'n gweithio gyda nhw bob dydd.
Byddwch yn datblygu eich sgiliau, cwrdd â phobl newydd, a datblygu eich gallu i weithio mewn gweithle prysur.