Cynhelir Etholiad nesaf y Senedd ar 7 Mai 2026. Rydym wedi creu adnoddau y gellir eu llwytho oddi ar y we, a chynnwys y gellir ei rannu, i'ch helpu i ledaenu'r neges.

Adnoddau ar y we ac ar e-bost

Y cyfryngau Cymdeithasol

Cofiwch ddiweddaru eich gwybodaeth am y Senedd ar y cyfryngau cymdeithasol, a rhannwch y postiadau diweddaraf â'ch ffrindiau a'ch teulu. Dilynwch #Senedd2026 i weld ein cynnwys ar yr ymgyrch a rhannwch hi, a’r wybodaeth am ddigwyddiadau, arddangosfeydd, a’r cynnwys ar yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i'r llenni, fel petai.

Rydym i’n gweld ar Instagram a TikTok – ble mae ein fideos 'Cyfri’r dyddiau tan Etholiad y Senedd 2026'. Bob mis, byddwn yn rhannu clip newydd – ydych chi’n adnabod unrhyw un o'r lleoliadau eiconig yng Nghymru?

Ar gyfer Addysgwyr

Gall unrhyw un dros 16 mlwydd oed bleidleisio yn Etholiad y Senedd, a gall unrhyw un dros 14 mlwydd oed gofrestru i bleidleisio.

Cynlluniwyd ein hadnoddau i helpu pobl ifanc ledled Cymru deimlo'n hyderus i gymryd rhan.

Adnoddau addysgu ar gyfer pobl ifanc 14+