Ar y dudalen hon, ceir fideos BSL sy’n rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch am etholiad y Senedd. Mae cynnwys pob fideo hefyd ar gael mewn testun oddi tano.
Etholiad y Senedd yn 2026
Os ydych chi’n 16 oed neu'n hŷn ar 7 Mai 2026 ac yn byw yng Nghymru, rydych chi’n gymwys i bleidleisio yn etholiad nesaf y Senedd.
Yn y ffideos hyn, byddwn ni’n trafod yr etholiad yn fanylach, ond dyma bum peth pwysig y mae angen i chi eu gwybod:
- Mae gan Gymru ei senedd ei hun – sef Senedd Cymru. Mae’r Senedd yn pasio deddfau am bob math o bethau sy'n effeithio ar eich bywyd bob dydd yng Nghymru.
- Pethau fel ysbytai a meddygon teulu, ysgolion ac addysg, trafnidiaeth ffyrdd a rheilffyrdd, ffermio, diwylliant, yr amgylchedd a’r iaith Gymraeg.
- Ar 7 Mai 2026 bydd gennych un bleidlais i ddewis y blaid neu’r ymgeisydd annibynnol rydych chi am iddynt gynrychioli eich ardal yn y Senedd.
- Bydd gan yr Aelodau o’r Senedd rydych yn eu hethol ym mis Mai 2026 y pŵer i wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar bawb yng Nghymru.
- Mae’n amser gwych i gymryd rhan. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisio erbyn 20 Ebrill 2026.
Pam mae’r etholiad yn bwysig?
Mae gan Gymru ei senedd ei hun – sef Senedd Cymru. Senedd Cymru, nid Senedd y DU, sy'n pasio deddfau am bob math o bethau sy'n effeithio ar eich bywyd bob dydd yng Nghymru.
Gall y Senedd wneud cyfreithiau mewn meysydd gan gynnwys:
- ysbytai a meddygon teulu
- ysgolion
- trafnidiaeth ffyrdd a rheilffyrdd
- ffermio ac anifeiliaid
- yr amgylchedd
- y Gymraeg
Mae cyfreithiau Cymru yn ystyried amgylchiadau yng Nghymru, a allai fod yn wahanol i rannau eraill o'r DU.
A oeddech chi’n gwybod?
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno taliadau am fagiau siopa untro yn 2011. Mae deddfau eraill a basiwyd gan y Senedd sydd ond yn berthnasol i Gymru yn cynnwys y terfyn cyflymder o 20mya, a chaniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau.
Felly, bydd gan y 96 o Aelodau o'r Senedd rydych yn eu hethol ym mis Mai 2026 y pŵer i wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bawb yng Nghymru.
Beth mae Aelodau o'r Senedd yn ei wneud?
O fis Mai 2026, bydd gan y Senedd 96 o Aelodau.
Caiff Aelodau o’r Senedd eu hethol o bob rhan o Gymru i’ch cynrychioli chi a’ch cymuned yn y Senedd.
Yn y Senedd
Yn ystod y tymor, mae holl Aelodau o’r Senedd yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos yn y Siambr ar gyfer y Cyfarfod Llawn.
Y Cyfarfod Llawn yw lle maen nhw'n siarad ar eich rhan, yn holi Gweinidogion Llywodraeth Cymru, yn trafod ac yn pleidleisio ar faterion pwysig, ac yn pasio deddfau.
Mae’r rhan fwyaf o Aelodau hefyd yn aelod o bwyllgorau. Pwyllgorau yw grwpiau bach o Aelodau o wahanol bleidiau sy’n edrych ar bynciau neu faterion penodol sy’n effeithio ar fywydau pobl yng Nghymru.
Yn eich cymuned
Pan nad ydyn nhw'n gweithio yn y Senedd, mae gan y rhan fwyaf o Aelodau swyddfa leol yn eu hetholaeth neu ranbarth.
Yn ogystal â bod yn wleidyddion, maen nhw’n rhan o’ch cymuned.
Maen nhw’n cynnal sesiynau galw heibio, o'r enw cymorthfeydd, fel y gallwch chi gwrdd â nhw a thrafod materion lleol a allai fod yn bwysig i chi. Gallwch hefyd gysylltu â nhw ar-lein neu dros y ffôn.
Gallan nhw helpu os yn bosib, ac ar ôl clywed gennych chi, gallai’ch Aelod dynnu sylw at eich pryder yn y Senedd. Gallan nhw ofyn cwestiwn neu drefnu dadl yn y Cyfarfod Llawn.
Cysylltu â’ch Aelodau
Gallwch gysylltu ag unrhyw un o’ch Aelodau – yn bersonol, ar-lein, neu dros y ffôn – dim ots i bwy y gwnaethoch chi bleidleisio. Mae pob un ohonyn nhw yn eich cynrychioli chi’n gyfartal.
Sut mae'r system bleidleisio’n gweithio?
Ar 7 Mai 2026, byddwch chi’n cael un bleidlais i ddewis cynrychiolwyr ar gyfer eich cymuned yn y Senedd.
Ar eich papur pleidleisio, byddwch yn dewis plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol.
Enw’r system bleidleisio newydd yw’r ‘system rhestr gyfrannol gaeedig’. Felly, bydd pob Aelod yn cael ei ethol yn seiliedig ar gyfran y pleidleisiau y mae pob plaid neu ymgeisydd annibynnol yn eu cael.
Mae’r system newydd yn golygu bod pob pleidlais yn cyfrif, felly bydd cyfansoddiad terfynol y Senedd yn cynrychioli dewis pleidleiswyr ledled Cymru yn well.
Sut mae’n gweithio
- Bydd Cymru yn cael ei rhannu yn 16 ardal ar gyfer etholiad 2026, sef etholaethau.
- Bydd gan bob etholaeth chwe ‘sedd’ yn y Senedd, sy'n golygu y bydd chwe Aelod yn cael eu hethol ym mhob un.
- Bydd pleidiau gwleidyddol yn paratoi rhestrau gyda hyd at wyth ymgeisydd ar gyfer pob etholaeth. Gall ymgeiswyr annibynnol, hefyd, sefyll mewn etholiad.
- Ar ddiwrnod yr etholiad, byddwch yn cael papur pleidleisio a bydd gennych un bleidlais dros y blaid neu'r ymgeisydd annibynnol yr hoffech iddo eich cynrychioli yn y Senedd.
- Bydd eich papur pleidleisio yn dangos y rhestr lawn o ymgeiswyr yn eich etholaeth, felly byddwch chi’n gallu gweld pwy sy’n sefyll dros bob plaid.
- Os bydd plaid yn ennill digon o bleidleisiau, bydd yn ennill un neu fwy o seddi yn y Senedd. Felly, os caiff Plaid A 50% o’r pleidleisiau mewn etholaeth, bydd y blaid honno yn debygol o gael tair o’r chwe sedd. Os caiff Plaid B 30%, bydd y blaid honno’n debygol o gael dwy o'r chwe sedd. Os bydd gan ymgeisydd annibynnol ddigon o bleidleisiau, bydd hefyd yn ennill sedd.
- Os bydd plaid yn ennill tair sedd mewn etholaeth, y tri pherson ar frig ei rhestr fydd yn cael eu hethol, yn nhrefn y rhestr.
- Os bydd gan ymgeisydd annibynnol ddigon o bleidleisiau, bydd hefyd yn ennill sedd yn y Senedd.
Mae’n amser gwych i gymryd rhan, ac mae eich pleidlais yn bwysicach nag erioed. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisio erbyn 20 Ebrill 2026.
Ym mha etholaeth ydw i'n byw?
Yn etholiad y Senedd yn 2026, bydd Cymru’n cael ei rhannu’n 16 o etholaethau newydd.
Bydd gan bob un o’r etholaethau hyn chwe Aelod, sy’n golygu y bydd cyfanswm o 96 Aelod yn cael eu hethol i’r Senedd.
Gallwch ddod o hyd i'ch etholaeth newydd drwy nodi eich cod post yn ein map canfod etholaethau.
Sut cafodd yr etholaethau newydd eu creu?
Gwnaeth Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru greu’r ardaloedd newydd drwy baru 32 etholaeth Senedd y DU yn 16 etholaeth Senedd newydd. Cafodd ffactorau eraill eu hystyried gan gynnwys:
- Ffiniau llywodraeth leol presennol
- Cysylltiadau ffyrdd a thrafnidiaeth
- Nodweddion daearyddol fel afonydd a mynyddoedd
- Cysylltiadau lleol (gan gynnwys y defnydd o’r Gymraeg)
Cynhaliodd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ddau ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau, a gwnaeth newidiadau yn seiliedig ar yr adborth a ddaeth i law. Cyhoeddwyd y ffiniau terfynol ym mis Mawrth 2025.
Mae gan bob etholaeth newydd un enw, i'w ddefnyddio yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Etholaethau’r Senedd ar gyfer etholiad 2026:
- Bangor Conwy Môn
- Clwyd
- Fflint Wrecsam
- Gwynedd Maldwyn
- Ceredigion Penfro
- Sir Gaerfyrddin
- Gŵyr Abertawe
- Brycheiniog Tawe Nedd
- Afan Ogwr Rhondda
- Pontypridd Cynon Merthyr
- Blaenau Gwent Caerffili Rhymni
- Sir Fynwy Torfaen
- Casnewydd Islwyn
- Caerdydd Penarth
- Caerdydd Ffynnon Taf
- Pen-y-bont Morgannwg