Mae gan Gymru ei senedd ei hun – sef Y Senedd. Ystyr hyn yw, mai’r Senedd, nid Senedd y DU, sy’n gwneud deddfau ar gyfer Cymru sy'n effeithio ar eich bywyd bob dydd. Mae hyn yn cynnwys meysydd fel ysgolion, ysbytai, amaethyddiaeth, trafnidiaeth a'r iaith Gymraeg.
Pan fyddwch chi'n pleidleisio, rydych chi'n helpu i ddewis y bobl a fydd yn cynrychioli eich cymuned yn y Senedd, a llunio'r math o wlad rydych chi eisiau byw ynddi.
Gyda system bleidleisio newydd, etholaethau newydd, ac Aelodau newydd yn 2026, mae'r Etholiad ar 7 Mai 2026 yn amser perffaith i gymryd rhan.
 
     
                     
                     
                         
                         
                         
                     
                         
                         
                         
                     
                         
                         
                        