Os nad ydych wedi pleidleisio o'r blaen, gall pleidleisio am y tro cyntaf ymddangos yn frawychus. Bydd y dudalen hon yn eich tywys drwy'r hyn sydd angen i chi ei wneud a beth fydd yn digwydd ar ddiwrnod yr etholiad.

Os ydych chi’n 16 oed neu'n hŷn ar 7 Mai 2026, gallwch bleidleisio yn etholiad y Senedd. 

Yn gyntaf, mae angen i chi gofrestru i bleidleisio.

Sut alla i gofrestru i bleidleisio?

Mae cofrestru i bleidleisio yn gyflym ac yn hawdd.

Bydd eich swyddfa yn gofyn am eich Rhif Yswiriant Gwladol, ond gallwch gofrestru hyd yn oed os nad oes gennych un.

Unwaith y byddwch ar gofrestr etholiadol, byddwch yn cael cerdyn pleidleisio drwy'r post. Bydd hyn yn rhoi manylion i chi o ble mae eich gorsaf bleidleisio leol.

Beth sy'n digwydd mewn gorsaf bleidleisio?

Gallwch fynd i orsaf bleidleisio ar 7 Mai 2026 i fwrw pleidlais.

Mae gorsafoedd pleidleisio wedi'u trefnu am y diwrnod mewn adeiladau lleol, fel ysgolion neu neuaddau cymunedol ledled Cymru. Anfonir cerdyn pleidleisio atoch cyn yr etholiad gyda manylion eich gorsaf bleidleisio.

Byddant ar agor rhwng 07:00 a 22:00 i sicrhau y gall cymaint o bobl â phosibl ddefnyddio eu pleidlais.

Yn eich gorsaf bleidleisio byddwch yn cael papur pleidleisio. Bydd gennych un bleidlais ar gyfer y blaid neu'r ymgeisydd annibynnol yr ydych am iddo eich cynrychioli yn y Senedd.

Bydd cyfarwyddiadau clir ar sut i lenwi eich papur pleidleisio, a gall staff yr orsaf bleidleisio helpu os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Mae rhagor o wybodaeth am beth sy'n digwydd ar ddiwrnod yr etholiad ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

A oes angen i mi fynd â fy ngherdyn pleidleisio gyda mi?

Nac oes, nid oes angen mynd â’ch cerdyn pleidleisio gyda chi. Byddwch yn gallu pleidleisio hyd yn oed os ydych wedi colli neu’n methu dod o hyd i’ch cerdyn. 

A oes angen i mi ddod â dogfen adnabod gyda mi?

Nac oes, nid oes angen dod â dogfen adnabod i bleidleisio mewn etholiadau’r Senedd.

A oes rhaid i mi fynd i orsaf bleidleisio i bleidleisio?

Nac oes. Gallwch hefyd ddewis pleidleisio drwy'r post, neu bleidleisio drwy berson arall.

Pleidleisio drwy’r post

Os na fyddwch yn medru mynychu orsaf belidleiso am ba bynnag rheswm, gallwch wneud cais i bleidleisio drwy'r post. Nid oes angen i chi gyfiawnhau eich cais.

Dysgwch fwy am sut i bleidleisio drwy’r post ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Pleidlais drwy ddirprwy

Gyda phleidlais drwy ddirprwy, rydych yn dewis rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan. Gall hyn fod o gymorth os oes gennych broblem feddygol neu anabledd sy'n eich cadw rhag mynd i’r orsaf bleidleisio, neu os ydych yn bwriadu bod dramor ar ddiwrnod yr etholiad. 

Ceir mwy o wybodaeth am bleidleisio drwy ddirprwy ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y canlynol hefyd