Beth yw’r Senedd?

Senedd Cymru yw’r Senedd. Mae'n gyfrifol am ddeddfu ar gyfer Cymru, gosod trethi, a goruchwylio gwaith Llywodraeth Cymru.

Aelodau

Beth mae Aelodau o'r Senedd yn ei wneud?

Mae Aelodau'r Senedd, a elwir hefyd yn ASau, yn cael eu hethol gan bobl Cymru i'w cynrychioli yn Senedd Cymru. 

Mae’r Aelodau yn rhannu eu hamser fel a ganlyn: maent yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd yn y Senedd, megis y Cyfarfod Llawn a chyfarfodydd y pwyllgorau, lle maent yn trafod pynciau neu faterion penodol sy'n effeithio ar fywydau pobl yng Nghymru; ac maent hefyd yn gweithio yn y cymunedau y maent wedi'u hethol i'w cynrychioli. 

Rhagor o wybodaeth am sut mae’r Aelodau’n gweithio yn y Senedd, a’r hyn y maent yn ei wneud yn eu hetholaeth neu ranbarth.

Pwerau

Pa bwerau sydd gan y Senedd?

Mae’r Senedd yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ar nifer o'r materion sy'n effeithio ar ein bywydau bob dydd.

Gall y Senedd ddeddfu ar faterion fel addysg, gofal iechyd, yr amgylchedd, diwylliant ac iaith, a thrafnidiaeth.

Fodd bynnag, mae rhai penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru yn parhau i orwedd gyda Senedd y DU (sef y 'materion a gedwir yn ôl'). Mae’r rhain yn cynnwys ynni niwclear, materion tramor ac amddiffyn.

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig syniadau ar gyfer deddfau, ac yn gwneud penderfyniadau ynghylch sut i wario ei chyllideb o tua £26 biliwn y flwyddyn.

Gwaith Aelodau eraill o’r Senedd yw ystyried, trafod a phleidleisio ar y deddfau a gynigir, a'r arian a gaiff ei wario gan Lywodraeth Cymru, a hynny ar ran pobl Cymru.

Ymweld â ni

Dewch i ymweld â ni ym Mae Caerdydd

A wyddoch chi fod gennych yr hawl i ymweld â'r Senedd yn rhad ac am ddim?

Mae digon i'w archwilio drwy ein teithiau tywys, ein harddangosfeydd, a’n gweithgareddau i blant. 

Trefnwch eich ymweliad heddiw. Rydym yn aros i'ch croesawu.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y canlynol hefyd