Mae Bob yn Gyfrifydd Rheoli Siartredig sydd â phrofiad
mewn rheoli ariannol, archwilio a rheoli risg. Yn dilyn gyrfa yn Nhrysorlys EM,
IBM a Banc Lloegr, cafodd ei benodi'n Gynghorydd Ariannol yn Llysgenhadaeth
Prydain yn Tokyo. Yn dilyn cyfnod yn Swyddfa'r Cabinet, daeth yn Gyfarwyddwr
Cyllid yn y Swyddfa Twyll Difrifol, ac yna yn yr Awdurdod Safonau Seneddol
Annibynnol (IPSA). Yn y rolau hyn, mae wedi arwain rhaglenni newid
trawsnewidiol pwysig i ddiwygio systemau llywodraethu a rheoli. Yn ystod ei
gyfnod yn IPSA, roedd yn ofynnol iddo ymddangos yn rheolaidd gerbron y
Llefarydd, gerbron Pwyllgorau Dethol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Yn ystod
y cyfnod hwnnw hefyd roedd yn un o ymddiriedolwyr y Gronfa Bensiwn Seneddol.
Mae Bob hefyd wedi bod yn Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol mewn cyngor sir ac mewn un
o adrannau'r Llywodraeth. Ar hyn o bryd mae'n un o ymddiriedolwyr Canolfan
Ffoaduriaid Oasis yng Nghaerdydd ac yn Gadeirydd grŵp Cyfeillion Llong
Casnewydd.