Pobl y Senedd

Ceri Hughes

Ceri Hughes

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Ceri Hughes

Bywgraffiad

Roedd Ceri yn Ymgynghorydd Annibynnol i'r Senedd rhwng Chwefror 2019 a Thachwedd 2022.

Dyma oedd ei bywgraffiad ar y pryd a adawodd:

Mae Ceri yn Gyfarwyddwr yn KPMG yn y DU, lle mae hi'n Bennaeth Dysgu.  Mae Ceri yn rhan o dîm arweinyddiaeth y cwmni ym maes 'Swyddogaeth Bobl', ac yn rhan o dîm arweinyddiaeth swyddogaethol grŵp perfformiad Gwasanaethau Busnes KPMG, lle mae hi'n dylanwadu ar strategaeth y cwmni ym maes gwasanaethau busnes. Dros gyfnod o 19 mlynedd gyda'r cwmni, mae Ceri wedi gweithio yn y DU ac yn rhyngwladol, ac wedi ymgymryd â rolau ym meysydd Gwasanaethau Trafodiadau, Datblygu'r Farchnad a KPMG International.  Mae Ceri wedi cwblhau cymhwyster MBA ac mae ganddi gymhwyster MSC mewn Rheoli Gwybodaeth a Chofnodion. Mae hi'n Rheolwr Siartredig, yn Gymrawd o'r Sefydliad Rheoli Siartredig a'r Gymdeithas Rheoli Gwybodaeth a Chofnodion, ac mae hi'n fentor achrededig ar gyfer Sefydliad Menywod Cherie Blair.

Digwyddiadau calendr: Ceri Hughes