Mark Egan oedd
prif weithredwr senedd Jersey (yn dal y teitl ‘Greffier of the States of
Jersey’) o 2015 tan 2022. Cyn hynny bu’n gweithio mewn uwch rolau yn Nhŷ’r Cyffredin, gan gynnwys arwain y tîm a sefydlodd Wasanaeth Digidol y Senedd
yn 2014. Bu hefyd yn Ysgrifennydd Ymddiriedolaeth Hanes y Senedd am 10 mlynedd
ac mae wedi arwain gwaith mewn seneddau ar amrywiaeth mewn arferion recriwtio.
Wedi cymhwyso mewn rheoli newid a chyfryngu, ers gadael Jersey mae Mark wedi
gweithio ar amrywiaeth o brosiectau i lywodraethau Jersey a San Helena yn
ogystal â Chymdeithas Seneddol y Gymanwlad. Mae'n aelod cyswllt o'r Ganolfan
Llywodraethu a Chraffu ac yn ddiweddar fe'i penodwyd yn Brif Weithredwr dros
dro Coleg Brenhinol y Llawfeddygon Caeredin.