Yng
Nghyfansoddiad anysgrifenedig y Deyrnas Unedig, y Frenhines neu’r Brenin yw
pennaeth y wladwriaeth. Caiff penderfyniadau i arfer pwerau sofran eu dirprwyo
gan y frenhiniaeth, naill ai drwy statud neu drwy gonfensiwn, i weinidogion neu
swyddogion y Goron. Gall hyn gynnwys Gweinidogion
Cymru ar gyfer cyfreithiau sy'n ymwneud â Chymru.