Manon Antoniazzi
yw Prif Weithredwr a Chlerc Senedd Cymru ac fe'i penodwyd ym mis Ebrill 2017.
Mae’n gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau ar gyfer y Senedd, a’r
60 Aelod o’r Senedd, er mwyn sicrhau bod y Senedd yn sefydliad sy’n ennyn hyder
a bod ganddi enw da am ddemocratiaeth hygyrch ac effeithlon.
Cyn ymuno â’r
Senedd, roedd Manon yn Gyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Llywodraeth Cymru, a hi gynt oedd Prif Weithredwr Croeso Cymru. Yn gynharach yn
ei gyrfa, bu’n gweithio yn y BBC ac S4C, a hefyd gyda Thywysog Cymru.