Mae Menai yn Gyfarwyddwr Siartredig, yn Brif Weithredwr arobryn yn y sector
cymdeithasol ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol profiadol. Mae’n Llywodraethwr
Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac wedi’i hethol yn Gyd-Is-Gadeirydd ar gyfer
2021-22.
Menai oedd Prif Weithredwr The Pituitary Foundation, elusen iechyd ar draws
y DU, tan fis Medi 2021. Arweiniodd newid trawsnewidiol a chynaliadwy yn
llwyddiannus yn ystod ei deng mlynedd yn y swydd, gan sefydlu’r sefydliad fel
un sy’n arwain yn ei faes ledled y byd.
Am yr ugain mlynedd diwethaf, mae Menai wedi cyfrannu’n helaeth at
gymdeithas sifil yng Nghymru, a’r Deyrnas Unedig, fel gwirfoddolwr ac fel
gweithiwr cyflogedig. Mae Menai yn frwd dros arweinyddiaeth gynhwysol ac mae
ganddi ddiddordebau, rhwydweithiau a phrofiadau eang ar draws sawl disgyblaeth
a sefydliad.
Mae Menai yn Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau (RSA) a Sefydliad
y Cyfarwyddwyr. Mae hi ar hyn o bryd yn Ymddiriedolwr Cyngor Gweithredu
Gwirfoddol Cymru (WCVA), Race Council Cymru a Daring to Dream. Tan yn ddiweddar
bu hefyd yn gwasanaethu ar fwrdd yr ACEVO (Cymdeithas Prif Weithredwyr Cyrff
Gwirfoddol) ac fel aelod o Fwrdd Cynghori Samariaid Cymru.