Mae Laura McAllister yn Athro Llywodraethu yn Ysgol Reoli
Prifysgol Lerpwl. Cafodd ei haddysg yn
Ysgol Gyfun Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr a graddiodd o Ysgol Economeg
Llundain a Phrifysgol Caerdydd, lle cwblhaodd radd PhD mewn gwleidyddiaeth. Mae
hefyd yn Athro Ymweld yng Nghanolfan Uwchefrydiau Polisi Cyhoeddus Prifysgol De
Cymru ac mae ganddi Gymrodoriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Metropolitan
Caerdydd.
Roedd Laura yn aelod o Gomisiwn Richard ar Bwerau a
Threfniadau Etholiadol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a gyflwynodd ei
adroddiad ym mis Mawrth 2004, a darparodd gyngor ymchwil i’r Panel Annibynnol
ar Gyflogau a Chymorth i Aelodau’r Cynulliad yn 2008-09. Mae’n Athro Ymweld er
Anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Technoleg Queensland yn Brisbane,
Awstralia ac Ysgol Weinyddiaeth Genedlaethol Tsieina yn Beijing.
Mae’n gyn-chwaraewr rhyngwladol ac yn gyn-gapten tîm
pêl-droed cenedlaethol Cymru sydd wedi ennill 24 o gapiau, ac mae Laura yn
Gadeirydd Chwaraeon Cymru. Mae Laura yn Aelod o Fwrdd UK Sport ac
Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru.
Yn ogystal, mae’n aelod o Bwyllgor Cynghori Cymru y
Cyngor Prydeinig ac yn aelod o Fwrdd Stonewall UK. Mae gan Laura raddau
anrhydedd o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Morgannwg, a chymrodoriaeth er
anrhydedd o Brifysgol Caerdydd.