Pobl y Senedd

Robert (Bob) Evans

Robert (Bob) Evans

Cynghorwr Annibynnol

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Robert (Bob) Evans

Bywgraffiad

Mae Bob yn Gyfrifydd Rheoli Siartredig sydd รข phrofiad mewn rheoli ariannol, archwilio a rheoli risg. Yn dilyn gyrfa yn Nhrysorlys EM, IBM a Banc Lloegr, cafodd ei benodi'n Gynghorydd Ariannol yn Llysgenhadaeth Prydain yn Tokyo. Yn dilyn cyfnod yn Swyddfa'r Cabinet, daeth yn Gyfarwyddwr Cyllid yn y Swyddfa Twyll Difrifol, ac yna yn yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol (IPSA). Yn y rolau hyn, mae wedi arwain rhaglenni newid trawsnewidiol pwysig i ddiwygio systemau llywodraethu a rheoli. Yn ystod ei gyfnod yn IPSA, roedd yn ofynnol iddo ymddangos yn rheolaidd gerbron y Llefarydd, gerbron Pwyllgorau Dethol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Yn ystod y cyfnod hwnnw hefyd roedd yn un o ymddiriedolwyr y Gronfa Bensiwn Seneddol. Mae Bob hefyd wedi bod yn Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol mewn cyngor sir ac mewn un o adrannau'r Llywodraeth. Ar hyn o bryd mae'n un o ymddiriedolwyr Canolfan Ffoaduriaid Oasis yng Nghaerdydd ac yn Gadeirydd grŵp Cyfeillion Llong Casnewydd.

Aelodaeth

Digwyddiadau calendr: Robert (Bob) Evans