Os ydych chi eisiau cyflwyno tystiolaeth, defnyddiwch y ffurflen ar-lein  naill ai i roi ymatebion i gwestiynau unigol, neu er mwyn lanlwytho dogfen/fideo sy’n barod. Fel arall, anfonwch eich cyflwyniad drwy e-bost neu drwy'r post i'r cyfeiriadau a restrir isod. Sut bynnag yr ydych chi’n bwriadu cyflwyno, gwnewch hynny erbyn y dyddiad cau, sef 12 Medi 2025.

Gall ymatebion mewn Iaith Arwyddion Prydain gael eu lanlwytho drwy ddefnyddio'r ffurflen ymateb ar-lein .

Cyn llenwi’r ffurflen, paratowch fideo ohonoch chi’n ymateb i'r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
Pan fydd fideo’n barod gyda chi, llenwch y ffurflen er mwyn cael mynediad at ein llwyfan lanlwytho fideos.

Bydd y ffurflen yn gofyn am fanylion amdanoch chi fel ymatebydd yn y lle cyntaf, sydd eu hangen ar gyfer pob ymateb, ym mha bynnag fformat neu iaith y cânt eu darparu. Ar ôl i'r manylion cychwynnol hynny gael eu darparu, fe allwch chi ddewis ymateb drwy gwblhau cwestiynau unigol ar-lein, lanlwytho ffeil neu lanlwytho fideo yn Iaith Arwyddion Prydain.

Os ydych chi’n dewis lanlwytho fideo yn Iaith Arwyddion Prydain, ar ôl cyflwyno'r ffurflen fe fyddwch chi’n cael e-bost yn rhoi mynediad ichi i'n system ddiogel ar hyfer lanlwytho ffeiliau.

Dilynwch y linc yn yr e-bost hwnnw er mwyn cyflwyno ffeil (neu ffeiliau) fideo yn ddiogel i ffolder o fewn y system ar-lein. Mae'r linc yn unigryw i chi ac ni ddylid ei rannu.

Os ydych chi’n cael anawsterau wrth ddefnyddio ein system lanlwytho fideos, anfonwch e-bost at dîm clercio’r Pwyllgor: SeneddCydraddoldeb@senedd.cymru

Gall ein Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid hefyd dderbyn galwadau drwy’r gwasanaeth Relay Iaith Arwyddion Prydain o’ch dewis ar 0300 200 6565

Fideos esbonio

Deall Proses Ddeddfwriaethol Senedd Cymru a Chraffu yng Nghyfnod 1

Y Senedd sy'n gyfrifol am wneud deddfau mewn meysydd datganoledig yng Nghymru. Cyn dod yn gyfraith, mae Biliau yn mynd drwy broses sydd â'r nod o sicrhau bod Aelodau o'r Senedd wedi ystyried y Bil a'i ganlyniadau yn drylwyr. Fel rhan o'r broses, gall Aelodau ofyn i grŵp llai o Aelodau (a elwir yn bwyllgorau) o wahanol bleidiau gwleidyddol gyflawni gwaith manwl ar y cynigion. Fel arfer, bydd y pwyllgor yn casglu tystiolaeth gan bartïon â diddordeb ac arbenigwyr, cyn adrodd yn ôl i'r Senedd gyda'u canfyddiadau.

Mae'r broses hon yn helpu i sicrhau bod deddfau'n cael eu penderfynu ar sail dryloyw a democrataidd.

Craffu gan bwyllgor yng Nghyfnod 1

Rôl y pwyllgor:

    • Mae’r pwyllgor yn edrych yn fanwl ar egwyddorion cyffredinol y Bil.
    • Mae'n casglu tystiolaeth o amrywiol ffynonellau, gan gynnwys gan arbenigwyr, gan randdeiliaid, a chan y cyhoedd.

Casglu tystiolaeth:

    • Efallai y bydd y pwyllgor yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus, yn gwahodd cyflwyniadau ysgrifenedig, ac yn cynnal arolygon.
    • Defnyddir tystiolaeth i ddeall effaith a goblygiadau'r Bil.

Adroddiad pwyllgor:

    • Mae'r pwyllgor yn paratoi adroddiad yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd.
    • Mae'r adroddiad yn cynnwys argymhellion, a chaiff ei gyflwyno i’r Senedd.

Ymateb i'r ymgynghoriad

Sut i ymateb:

    • Mae sawl ffordd y gallwch ymateb i'r ymgynghoriad. Os ydych chi eisiau cyflwyno tystiolaeth, defnyddiwch y ffurflen ar-lein naill ai i roi ymatebion i gwestiynau unigol, neu er mwyn lanlwytho dogfen neu fideo sy’n barod. Fel arall, anfonwch gyflwyniad at y pwyllgor ar e-bost, neu drwy’r post.

Beth i'w gynnwys yn eich ymateb:

    • Nodwch eich barn yn glir ar y Bil.
    • Darparwch dystiolaeth i gefnogi eich barn.
    • Awgrymwch unrhyw newidiadau neu welliannau i'r Bil.

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion:

    • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno eich ymateb cyn y dyddiad cau a nodir yn yr hysbysiad am yr ymgynghoriad.