Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Strategaeth y Chweched Senedd
Strategaeth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Rhagfyr 2021
Mae’r Senedd wedi sefydlu’r Pwyllgor Iechyd a Diogelwch i edrych ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar faterion penodol.
Mae’r dudalen hon yn nodi’r strategaeth i’n gwaith yn y Chweched Senedd.
Byddwn yn parhau i adolygu’r strategaeth hon.
Ein gweledigaeth
Ein gweledigaeth ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol
Bawb yng Nghymru yn byw bywydau hirach ac iachach.
System iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gweithio'n fwy effeithiol nag yr oedd cyn y pandemig.
Pobl yn defnyddio systemau iechyd a gofal gan wybod pa wasanaethau i'w cyrchu i ddiwallu eu hanghenion, a chael profiad mwy cadarnhaol.
Er mwyn cyflawni'r weledigaeth hon, bydd angen:
- Integreiddio gwell rhwng iechyd a gofal cymdeithasol.
- Cynnydd o ran diwygio gofal cymdeithasol, gan gynnwys gwell cynaliadwyedd ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol.
- Lefelau uwch o lythrennedd iechyd a chyfeirio rhwng gwasanaethau.
- Gwell mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, yn enwedig i bobl ifanc a phobl sydd â'r anghenion mwyaf acíwt.
- Cynnydd o ran mynd i'r afael â phrinder gweithlu ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys datblygu'r gweithlu a gwasanaethau gofal sylfaenol fel bod pobl yn gallu cael mynediad at arbenigedd priodol yn agos at gartref.
- Morâl uwch ar draws y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwell hunanreolaeth a hunanofal o gyflyrau cronig.
- Gwell safonau ac arferion mewn perthynas ag iechyd menywod.
"Mae’r strategaeth yn amlinellu ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol dros y pum mlynedd nesaf, a sut byddwn yn cydweithio fel Pwyllgor.
Bydd ein strategaeth yn tywys ac yn llywio ein gwaith, ond ni fydd yn ein hatal rhab bod yn hyblyg neu ymateb i faterion sy’n codi."
— Russell George AS, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ein rôl
Ein rôl ni yw sbarduno newid drwy ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru a'r sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Byddwn yn gwneud hyn drwy’r canlynol:
- Cynnal ymdeimlad o ddiben cyffredin trawsbleidiol mewn perthynas â’r weledigaeth rydym yn ei rhannu, gan hefyd gydnabod a pharchu y bydd gan Aelodau safbwyntiau gwleidyddol gwahanol.
- Cadw mater neu faterion blaenoriaeth ar agenda'r Llywodraeth, neu wthio mater neu faterion i fyny'r agenda, drwy ymchwiliadau, gwaith craffu cyffredinol, trafodaethau anffurfiol gyda'r Gweinidog, ceisio sesiynau briffio gan Lywodraeth Cymru, gohebiaeth, monitro sut mae argymhellion yn cael eu gweithredu, a chwestiynau neu gyfraniadau'r Aelodau eu hunain yn y Cyfarfod Llawn ac ati.
- Adnabod rhwystrau i weithredu neu newid, a sut y gellir mynd i'r afael â rhwystrau o'r fath, a mynd ar drywydd gwaith i weld a aethpwyd i'r afael â'r rhwystrau. Gallai hyn hefyd gynnwys gwaith craffu mwy systematig ar ymatebion Llywodraeth Cymru, a mynd ar drywydd ymatebion nad ydynt yn ddigon clir, cadarn neu gynhwysfawr.
- Cynllunio gwaith mewn digon o amser roi eglurder i randdeiliaid, golygu bod modd meithrin perthynas â phobl na fyddai eu lleisiau'n cael eu clywed fel arall, a gwneud y defnydd gorau o adnoddau ac amser, gan hefyd gadw digon o hyblygrwydd a chapasiti i'n galluogi i ymateb i faterion amserol neu faterion sy'n codi.
- Rhoi amser o'r neilltu o bryd i'w gilydd i fyfyrio ar y cynnydd a wnaed tuag at y weledigaeth gyffredinol, pa gyfraniad rydym wedi'i wneud, a pha gamau pellach y gallem eu cymryd i lywio cynnydd.
chevron_right
Materion
Materion trawsbynciol
Bydd y themâu canlynol yn rhedeg drwy ein holl waith:
Rhoi pobl wrth galon iechyd a gofal Cymdeithasol
Er enghraifft, pwy mae polisïau neu benderfyniadau’n effeithio arnynt; effeithiau gwahanol ar wahanol grwpiau neu gymunedau; ffyrdd o gyfathrebu â phobl, ymgysylltu â nhw, ymgynghori â nhw neu eu cynnwys.
Arloesi er mwyn gwella
Er enghraifft, alinio ag agenda trawsnewid Llywodraeth Cymru; arloesi mewn prosesau, technoleg, offer, hyfforddiant ac agweddau; rhwystrau; sylfaen dystiolaeth; gwerthuso, rhannu a chyflwyno; cyllid; archwaeth risg a chydbwyso diogelwch ac arloesedd; atebolrwydd ac uchelgais; ystwythder; alinio dyhead a gweithredu.
Y gweithlu iechyd a gofal Cymdeithasol
Er enghraifft, capasiti; hyfforddi ac ailhyfforddi; ymgorffori arloesedd wrth gynllunio a datblygu'r gweithlu; morâl a llesiant staff.
Anghydraddoldebau ac annhegwch iechyd
Er enghraifft, y gwahaniaethau mewn canlyniadau iechyd a mynediad at wasanaethau ar draws gwahanol grwpiau, cymunedau, grwpiau economaidd-gymdeithasol neu ardaloedd daearyddol.
Ailosod ar ôl y pandemig
Er enghraifft, ystyried sut oedd pethau cyn y pandemig, sut y gwnaeth y pandemig effeithio arnynt, a sut yr ydym am i'r sefyllfa fod.
Blaenoriaethau
Materion blaenoriaeth
Rydym wedi nodi'r materion blaenoriaeth a ganlyn. Byddwn yn parhau i adolygu’r rhestrau hyn.
Blwyddyn un y Chweched Senedd (2021 - 22)
- COVID: cadw golwg ar y pandemig, ac ailosod ar ôl COVID.
- Y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys hyfforddiant; recriwtio; cadw; anghenion; lleoedd hyfforddi; diwylliant o arloesi a gwella; ac uwch arweinyddiaeth (er enghraifft drwy wrandawiadau cyn penodi neu sesiynau craffu).
- Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros.
- Llif cleifion drwy ysbytai, gan ganolbwyntio i ddechrau ar eu rhyddhau o'r ysbyty.
- Iechyd meddwl.
- Cynllun y gaeaf ar gyfer iechyd a gofal Cymdeithasol.
- Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23
Blaenoriaethau posibl yn ystod blynyddoedd dau i bump o'r Chweched Senedd (2022 - 26)
- Gofal sylfaenol, gan gynnwys ehangu dealltwriaeth o'r ystod o wasanaethau, cyfeirio, rhagfarn anymwybodol a llythrennedd iechyd.
- Hyrwyddo ffyrdd iach o fyw ac atal problemau.
- Iechyd menywod.
- Gwasanaethau adsefydlu.
- Mynediad at wasanaethau ar gyfer cyflyrau cronig hirdymor.
- Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
- Integreiddio ac ariannu gofal cymdeithasol.
- Cefnogaeth a gwasanaethau i ofalwyr di-dâl.
- Y pandemig, ac ailosod ar ôl COVID.
Ein dull gweithredu
Sut y byddwn yn gweithio
Rydym wedi cytuno y byddwn:
- Yn meithrin cysylltiadau i hwyluso cydweithredu adeiladol a dylanwad.
- Yn gwrando ar brofiad byw, gan gynnwys mynd ar ymweliadau pan fydd y sefyllfa iechyd y cyhoedd yn caniatáu.
- Bod yn effro i’n cyfarfodydd ac yn hyblyg o ran amseroedd ein cyfarfodydd.
- Cynnal cyfarfodydd hybrid fel mater o drefn.
Strategaeth
Am wybod mwy?
Mynnwch eich copi o strategaeth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer y Chweched Senedd.
Adolygiad interim
Ym mis Chwefror 2023 fe wnaethom gynnal adolygiad interim. Gwnaethom gyhoeddi canlyniadau’r adolygiad, gan gynnwys pedwar casgliad allweddol, ym mis Mehefin 2023.
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae’r Senedd wedi sefydlu’r Pwyllgor Iechyd a Diogelwch i edrych ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar faterion penodol.
Mae hyn yn cynnwys iechyd corfforol, iechyd meddwl ac iechyd y cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.
chevron_right