Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol

Mae’r adroddiad hwn gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn nodi argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella’r cymorth ar gyfer canserau gynaecolegol a’r ymwybyddiaeth ohonynt yng Nghymru.

 

Cyhoeddwyd: 6 Rhagfyr 2023

Awdur: Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymchwiliad cysylltiedig: Canserau gynaecolegol

 

 

 


Crynodeb o’r adroddiad

Canserau gynaecolegol

Bob blwyddyn, mae oddeutu 1,200 o bobl yn cael diagnosis o ganser gynaecolegol yng Nghymru.

Mae symptomau'n amrywio rhwng gwahanol fathau o ganserau gynaecolegol, ac mae gan bob un wahanol lwybrau triniaeth, ac maent yn effeithio ar fenywod a merched mewn gwahanol ffyrdd. Gall rhai symptomau gynnwys bol wedi chwyddo, poen yn y pelfis, gwaedu rhwng mislifoedd, poen yn ystod rhyw, cosi a rhedlif anarferol o'r wain. Gall rhai canserau gynaecolegol ymddangos yn hwyr, gyda symptomau amhenodol (fel canser yr ofari).

Y pum math mwyaf cyffredin o ganser gynaecolegol yw: serfigol, yr ofari, endometriaidd (a elwir hefyd yn ganser y groth), y wain a'r fwlfa.

Gwrando ar fenywod

Mae'n amlwg o'r dystiolaeth a ddaeth i law bod llawer o fenywod yn teimlo nad yw gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gwrando arnynt.

Mae llawer o resymau pam nad yw gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gwrando ar fenywod bob amser, gan gynnwys rhagfarn ar sail rhywedd a rhagdybiaethau ynghylch emosiynau menywod neu eu gallu i oddef poen. Gall symptomau menywod gael eu tanamcangyfrif neu eu priodoli i ffactorau seicolegol neu emosiynol yn hytrach na'u hymchwilio'n drylwyr, gan arwain at oedi neu ddiagnosis wedi’i fethu. Bu diffyg gwaith ymchwil meddygol hefyd ar bynciau benywaidd, gan arwain at gamddiagnosis neu ofal annigonol i fenywod. 

Nid yw pob menyw sy'n ymweld â'i meddyg teulu â symptomau canser gynaecolegol yn cael profiad gwael. Ond pan aiff pethau o chwith, gallant fynd wirioneddol o chwith, weithiau gyda chanlyniadau trasig.  Mae menywod yn adnabod eu cyrff eu hunain ac yn gwybod pan nad yw rhywbeth yn iawn, ac felly dylid gwrando ar eu pryderon a gweithredu arnynt.

Mae’n amlwg bod angen rhoi blaenoriaeth uwch i iechyd menywod nag a fu’n flaenorol. Mae angen i fenywod gael mynediad at y gofal sydd ei angen arnynt pan fydd ei angen arnynt. Mae angen i’r gwasanaeth iechyd fod yn ymatebol wrth ddarparu’r gofal hwnnw. Yn bwysicaf oll, mae angen i’r gwasanaeth wrando ar fenywod ac ymateb i’w pryderon iechyd mewn modd priodol.

Effaith y pandemig COVID-19

Er bod y pandemig yn anochel wedi cael effaith, mae'n amlwg bod problemau hirsefydlog mewn gwasanaethau canser gynaecolegol sy'n rhagddyddio COVID-19.

Mae amseroedd aros ar gyfer triniaeth canser gynaecolegol yn hir iawn a chydymffurfiaeth â'r targed llwybr canser sengl yw'r isaf ar gyfer yr holl ganserau yr adroddir amdanynt. Clywsom hefyd am broblemau sylweddol o ran capasiti, gan gynnwys diffyg adnoddau, cyfleusterau a gweithlu.

Clywsom am wasanaethau a gollwyd oherwydd COVID-19 nad ydynt wedi’u hadfer o hyd. Rydym yn cytuno â thystion bod angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda byrddau iechyd i wneud asesiad o’r gwasanaethau yr effeithiwyd arnynt a’u hadfer fel mater o frys.

Arweinyddiaeth ac atebolrwydd

Mae canserau gynaecolegol yn fwy cymhleth na llawer o ganserau eraill.

Mae gwahanol fathau o ganserau gynaecolegol; mae rhai yn fwy cyffredin nag eraill, ac mae gan rai symptomau sy'n eu gwneud yn haws gwneud diagnosis ar eu cyfer nag eraill. Maent i gyd yn ymddangos yn wahanol ac mae angen dulliau diagnostig a llwybrau clinigol gwahanol ar bob un ohonynt. Am y rhesymau hynny, credwn fod angen cymorth ac arweiniad cryf mewn perthynas â’r gwaith ar ganserau gynaecolegol.

Rydym yn pryderu yr ymddengys bod ansicrwydd rhwng Llywodraeth Cymru, Gweithrediaeth y GIG a Rhwydwaith Canser Cymru ynghylch eu gwahanol rolau a chyfrifoldebau o ran cefnogi’r gwaith o gyflawni’r llwybrau canser gynaecolegol. Mae angen mynd i'r afael â hyn ar frys.

Atal canser

Prif ffocws atal canser yw mynd i'r afael â'r ffactorau risg hysbys. Mae cysylltiadau clir rhwng mathau penodol o ganser, ac ysmygu a gordewdra.

Mae hyn yn wir am rai o'r canserau gynaecolegol, ac rydym yn pryderu nad yw'r cysylltiadau hyn yn cael eu deall yn eang gan fenywod yng Nghymru.

O'r herwydd, credwn fod angen mwy o negeseuon cliriach er mwyn ymgysylltu'n well â'r cyhoedd wrth hyrwyddo dewisiadau iachach o ran ffordd o fyw a'r manteision personol sy'n gysylltiedig â'r dewisiadau hyn.

Hybu iechyd ac ymwybyddiaeth o symptomau

Po gynharaf y gwneir diagnosis o ganser, yr hawsaf yw ei drin.

Ond nid yw adnabod arwyddion a symptomau canserau gynaecolegol yn syml oherwydd ei bod yn hawdd eu camgymryd am broblemau iechyd eraill mwy cyffredin a llai difrifol. Mae gwybodaeth am arwyddion a symptomau canserau gynaecolegol ar gael yn  https://eveappeal.org.uk/gynaecological-cancers/gynae-cancers-explained/.

Mae angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o ganserau gynaecolegol. Rydym felly yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a rhanddeiliaid perthnasol i ddatblygu a gweithredu cyfres o ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau canser gynaecolegol.

Gofal sylfaenol – gweithwyr iechyd proffesiynol

Gwyddom fod meddygon teulu dan bwysau aruthrol.

Rydym yn deall nad yw adnabod arwyddion a symptomau canserau gynaecolegol yn syml oherwydd ei bod yn hawdd eu camgymryd am broblemau iechyd eraill mwy cyffredin a llai difrifol. Ond mae gormod o fenywod yn cael eu hanfon i ffwrdd gyda chamddiagnosis, yn aml o syndrom coluddyn llidus dim ond i ddarganfod, yn anffodus weithiau'n rhy hwyr, bod ganddynt ganser gynaecolegol mewn gwirionedd.

Mae’n hanfodol felly bod meddygon teulu yn gallu cael mynediad at addysg feddygol barhaus, gan ganolbwyntio ar ganserau gynaecolegol, ynghyd â chymorth gan ofal eilaidd i’w cynorthwyo i asesu ac atgyfeirio cleifion sydd â symptomau canser gynaecolegol posibl.

Cyflwyniadau brys

Bydd nifer penodol o achosion canser bob amser yn cael diagnosis drwy dderbyniadau brys. Fodd bynnag, yng Nghymru mae'r ffigur hwn yn annerbyniol o uchel.

Mae nifer y menywod sy'n cael diagnosis o ganser gynaecolegol yn dilyn ymweliad â’r adran damweiniau ac achosion brys yn awgrymu bod rhywbeth yn mynd o'i le mewn gofal sylfaenol. Mae’r methiant i adnabod y menywod hynny mewn lleoliadau gofal sylfaenol yn codi cwestiynau ynghylch effeithiolrwydd y system i ganfod symptomau’n gynnar, yn ogystal â’r prosesau atgyfeirio .

Mae angen gwell dealltwriaeth ynghylch a oes mathau penodol o ganser gynaecolegol y mae meddygon teulu yn ei chael yn anodd eu hadnabod, sy’n golygu bod menywod yn dod i’r amlwg yn hwyr gyda symptomau neu drwy’r adran damweiniau ac achosion brys.

Triniaeth

Mae’n siomedig bod perfformiad yn erbyn y llwybr canser sengl mor wael ar gyfer canserau gynaecolegol.

Rydym yn falch felly bod y Gweinidog wedi nodi canserau gynaecolegol fel un o’i meysydd blaenoriaeth.

Rydym wedi gofyn i’r Gweinidog nodi ei hymrwymiad parhaus i flaenoriaethu canser gynaecolegol ac i ddarparu’r sylw a’r adnoddau hanfodol i gael effaith gadarnhaol ar iechyd menywod.

Y gweithlu canser

Roeddem yn bryderus iawn o ddysgu nad oes darlun clir o'r gweithlu canser yng Nghymru.

Gwyddom fod prinder ar draws pob arbenigedd, gan gynnwys radiolegwyr, patholegwyr, oncolegwyr a nyrsys. Er ein bod yn deall bod pobl yn gweithio ar draws gwahanol arbenigeddau ac nad yw'r rhain yn ymwneud â chanser yn unig, nid ydym yn derbyn awgrym y Gweinidog bod hyn yn golygu na ellir diffinio'r gweithlu canser. Gwyddom hefyd fod cyfran uchel o weithlu canser Cymru dros 50 oed.

Rydym felly wedi gofyn i Lywodraeth Cymru gynnal adolygiad cynhwysfawr o'r gweithlu canser gynaecolegol yng Nghymru, i nodi lle mae prinder neu sy'n debygol o fod prinder, a chymryd camau i recriwtio i'r swyddi hynny.

Gwybodaeth a deallusrwydd

Mae data ynghylch canserau gynaecolegol yn cael eu cronni gyda'i gilydd ar hyn o bryd.

Cawsom wybod bod gan y pum canser gynaecolegol lwybrau diagnosis a thriniaeth gwahanol iawn, ac felly pan gânt eu coladu, mae’n anodd nodi lle mae mannau cyfyng yn y system, ac felly pa gamau sydd eu hangen i wneud gwelliannau.

Rydym yn croesawu’r gwaith sy’n cael ei wneud i ddadgyfuno data perfformiad fel y gellir eu dadansoddi yn ôl y math o ganser gynaecolegol ond mae’n siomedig nad oes amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith hwn.

Gwaith ymchwil i ganserau gynaecolegol

I fenywod sydd â chanserau gynaecolegol prin, mae’n bosibl mai treialon clinigol yw eu hunig ffordd o gael mynediad at driniaeth.

Gall treialon gynnig therapïau arloesol nad ydynt efallai ar gael drwy driniaethau safonol. Fodd bynnag, i rai menywod, gall fod yn anodd dod o hyd i dreialon clinigol, gan eu bod yn dibynnu ar gael arbenigwyr yn y maes a chlywsom nad yw'r seilwaith i gefnogi clinigwyr gyda gwaith ymchwil canser a threialon clinigol yno o reidrwydd.

Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau i ddatblygu amgylchedd ymchwil meddygol Cymru fel y gall gystadlu â rhannau eraill o’r DU am gyllid ymchwil.

Gofal lliniarol a gofal diwedd oes

Nid yw gofal lliniarol yr un peth â gofal diwedd oes, a gellir rhoi cleifion ar lwybr gofal lliniarol cyn gynted ag y cânt ddiagnosis o ganser anwelladwy er mwyn eu helpu i reoli eu poen wrth i’w salwch fynd yn ei flaen.

Gall gofal lliniarol gynnwys ystod o driniaethau cyfannol sy'n canolbwyntio ar agweddau seicolegol, cymdeithasol ac ysbrydol ar ofal.

Rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda byrddau iechyd a rhanddeiliaid perthnasol i sicrhau bod manteision gofal lliniarol yn cael eu hyrwyddo i gleifion, meddygon teulu a chlinigwyr mewn ysbytai acíwt er mwyn mynd i’r afael â’r camsyniad mai dim ond ar gyfer diwedd oes y mae gofal lliniarol.



Cyngor a chymorth

Gofal Canser Tenovus

Os ydych yn poeni, neu os oes gennych gwestiynau am ganser, neu os hoffech gael mynediad at eu gwasanaethau, gallwch gysylltu â Gofal Canser Tenovus:

Llinell Gymorth Rhad Ac Am Ddim - 0808 808 1010

Jo’s Cervical Cancer Trust

Gall Jo’s Cervical Cancer Trust Jo ateb eich cwestiynau, darparu gwybodaeth ddibynadwy neu fod yn llais cyfeillgar i siarad ag ef:

Ffoniwch 0808 802 8000

Target Ovarian Cancer

Os oes angen gwybodaeth neu gymorth arnoch, neu rywun sy’n deall i siarad ag ef, gall nyrsys arbenigol Target Ovarian Cancer helpu.

Ffoniwch 020 7923 5475. Mae’r llinell gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 09.00 a 17.00.

 

Gofal Canser Macmillan

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn gofalu amdano wedi cael diagnosis o ganser, mae Gofal Canser Macmillan yma i helpu.

Ffoniwch 0808 808 0000 rhwng 08:00 ac 20:00. Mae'n rhad ac am ddim i ffonio o linell dir a ffonau symudol yn y DU.

The Eve Appeal

Os ydych yn poeni am unrhyw symptomau anarferol yr ydych wedi bod yn eu cael, rydych newydd gael diagnosis ac eisiau siarad â nyrs gynaecolegol arbenigol hyfforddedig, neu'n poeni am ffrind neu berthynas sydd wedi cael diagnosis, mae The Eve Appeal ar gael i ateb cwestiynau a phryderon.

Ffoniwch 0808 802 0019. Mae'n rhad ac am ddim i ffonio o linell dir a ffonau symudol.