Rhestr termau
Rhestr termau seneddol
Mynegai A-Y o dermau
Defnyddiwch y llythrennau isod i weld rhestr o dermau
G
Tymor
Gorchmynion Cychwyn
Mae Gorchmynion Cychwyn yn nodi’r dyddiad pan ddaw deddfwriaeth sylfaenol i rym. Mae'r gorchmynion hyn yn fath o is-ddeddfwriaeth nad ydynt, fel rheol, yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn ffurfiol yn y Senedd ac nad oes rhaid eu gosod gerbron y Senedd. Ar adegau, gall Gorchmynion Cychwyn fod ar ffurf Rheoliadau Cychwyn, ond maent yn cyflawni'r un diben.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol
Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor sydd, os caiff ei gymeradwyo gan Senedd Cymru a’r ddau Dŷ yn Senedd y DU, yn newid Cymhwysedd Deddfwriaethol Senedd Cymru.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Goruchafiaeth Seneddol
Athrawiaeth yng nghyfraith gyfansoddiadol y DU sy’n nodi mai Senedd y DU yw’r corff deddfu sofran. Mae hyn yn golygu ei bod uwchlaw pob sefydliad llywodraethol arall ac y gall ddiwygio neu ddiddymu unrhyw ddeddfwriaeth y bydd seneddau eraill yn eu gwneud.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Grant bloc
Y grant bloc yw’r swm y bydd Senedd y DU yn penderfynu ei ddyrannu i’r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer y weinyddiaeth ddatganoledig berthnasol. Dyma’r gyllideb a neilltuir o fewn terfyn gwariant yr adrannau, a chaiff ei chyfrifo o’r llinell sylfaen gyfredol gan ddefnyddio fformwla Barnett.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Grwpiau trawsbleidiol
Gall Aelodau’r Senedd sefydlu grwpiau trawsbleidiol i ymchwilio i unrhyw faes pwnc sy’n berthnasol i’r Senedd. Rhaid i grŵp gynnwys Aelodau o o leia dri grŵp plaid sydd â chynrychioliad yn y Senedd.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Gwasanaeth Ymchwil
Gwasanaeth yn y Senedd sy’n cynnig ymchwil a gwybodaeth arbenigol a diduedd i gynorthwyo Aelodau’r Senedd a’r pwyllgorau i gyflawni eu swyddogaethau, craffu a deddfwriaethol a’u swyddogaethau fel cynrychiolwyr yn y Senedd.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Gweinidogion Cymru
Aelod o'r Senedd y bydd y Prif Weinidog yn ei benodi’n Weinidog, gyda chymeradwyaeth y Frenhines, ac sy’n rhan o Lywodraeth Cymru. Ni cheir mwy na 12 Gweinidog (gan gynnwys Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion) ar unrhyw un adeg, ar wahân i’r Prif Weinidog.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Gweithrediaeth
Term a ddefnyddir i ddisgrifio’r Llywodraeth ac i wahaniaethu rhyngddi a’r ddeddfwrfa, neu’r senedd. Yng Nghymru, y weithrediaeth yw Llywodraeth Cymru, a’r ddeddfwrfa yw Senedd Cymru. Mae’r weithrediaeth yn gwneud polisïau ac yn rhoi deddfwriaeth ar waith.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Gwelliannau (i Fil)
Newidiadau a awgrymir i destun Bil a gynigir gan Aelodau’r Senedd (gan gynnwys y rheini sydd hefyd yn Weinidogion Cymru). Gellir awgrymu gwelliannu yn ystod Cyfnod Dau a Chyfnod Tri a'r Cyfnod Adrodd ym mhroses ddeddfu’r Senedd, a gall Aelodau’r Senedd bleidleisio i’w derbyn ai peidio.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Gwelliannau (i gynigion)
Newidiadau a awgrymir i destun cynnig a gaiff ei drafod yn y Cyfarfod Llawn. Onibai bod Rheolau Sefydlog yn nodi fel arall, gall Aelodau’r Senedd gynnig gwelliant i unrhyw gynnig.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024