Rhestr o addewidion a wneir gan blaid wleidyddol, fel arfer cyn etholiad. Mae’r maniffesto’n awgrymu’r hyn y bydd plaid yn ei wneud os caiff ei hethol.
Rhestr termau
Rhestr termau seneddol
Mynegai A-Y o dermau
Defnyddiwch y llythrennau isod i weld rhestr o dermau
M
Tymor
Materion a gadwyd yn ôl
Ni chaiff Deddfau’r Senedd ymwneud ag unrhyw fater a gedwir yn ôl yn Atodlen 7A (megis caethwasiaeth fodern, trydan, trafnidiaeth ffyrdd a rheilffyrdd, meddyginiaethau) i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2017).
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (LCM)
O dan Reol Sefydlog 29, rhaid i aelod o Lywodraeth Cymru osod memorandwm (“memorandwm cydsyniad deddfwriaethol” / “LCM”) mewn perthynas â Biliau’r DU sy'n gwneud darpariaeth ar bwnc sydd o fewn, neu'n addasu, cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM)
Mae Rheol Sefydlog 30A yn nodi bod yn rhaid i aelod o Lywodraeth Cymru osod memorandwm (memorandwm cydsyniad offeryn statudol) mewn perthynas ag unrhyw offeryn statudol a osodir gerbron Senedd y DU gan Weinidogion y DU, os oes angen cydsyniad y Senedd ar yr offeryn statudol hwnnw yn sgil y ffaith ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Memorandwm Esboniadol
Rhaid paratoi Memorandwm Esboniadol i gyd-fynd â phob Bil a gyflwynir gerbron y Senedd. Yn y memorandwm esboniadol, nodir yr amcanion polisi, manylion unrhyw broses ymgynghori a gafwyd, amcangyfrif o’r gost o roi’r Bil ar waith ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Mesurau
Yn ystod y Trydydd Cynulliad (Mai 2007 - Mawrth 2011), galwyd y cyfreithiau a wnaed gan Senedd Cymru yn Fesurau.
Diweddarwyd Ddiwethaf 09/01/2026
Tymor
Meysydd
Roedd y rhain yn feysydd polisi datganoledig yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (cyn i Ddeddf Cymru 2017 ei diwygio). I gael rhagor o wybodaeth, gweler pynciau.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Tymor
Model hybrid ar gyfer Cyfarfodydd Llawn
Cytunodd Elin Jones AS, sef Llywydd Senedd Cymru, a Phwyllgor Busnes y Senedd, i symud i fodel hybrid ar gyfer Cyfarfodydd Llawn y Senedd cyn diwedd tymor yr haf yn 2020, gyda rhai Aelodau yn cymryd rhan ar blatfform Zoom, ac uchafswm o 20 o Aelodau yn cyfrannu yn y Siambr. Ym mis Mawrth 2022 cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai cyfranogiad o bell yn nhrafodion y Senedd yn parhau. Heddiw nid oes dim cyfyngiadau mwyach ar nifer yr Aelodau sy'n bresennol yn y Cyfarfodydd Llawn neu’r pwyllgorau wyneb yn wyneb. Gall unrhyw Aelod gymryd rhan a phleidleisio o bell ac maent yn ddarostyngedig i'r Canllawiau ar Gynnal Busnes y Senedd yn Briodol a'r Canllawiau ar Drafodion Rhithwir a Hybrid, a gyhoeddwyd yn unol â Rheol Sefydlog 6.17.
Diweddarwyd Ddiwethaf 12/01/2026