Mae Senedd y DU (sy’n cynnwys Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi) wedi’i lleoli ym Mhalas San Steffan, Llundain.
Rhestr termau
Rhestr termau seneddol
Mynegai A-Y o dermau
Defnyddiwch y llythrennau isod i weld rhestr o dermau
S
Tymor
Senedd
Grŵp o wleidyddion etholedig sy’n dadlau ac yn deddfu.
Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020
Tymor
Senedd Cymru
Mae Senedd Cymru (neu'r Senedd fel y'i gelwir) yn cynnwys 60 Aelod o bob rhan o Gymru. Cânt eu hethol gan bobl Cymru i'w cynrychioli nhw a'u cymunedau, i ddeddfu ar gyfer Cymru, i gytuno ar drethi Cymreig ac i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gwaith yn iawn.
Diweddarwyd Ddiwethaf 22/07/2020
Tymor
Senedd Cymru (y Senedd)
Mae Senedd Cymru yn cynnwys 60 Aelod o bob rhan o Gymru. Cânt eu hethol gan bobl Cymru i’w cynrychioli nhw a’u cymunedau, i ddeddfu ar gyfer Cymru, i gytuno ar drethi Cymreig ac i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gwaith yn iawn.
Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020
Tymor
Siambr
Rhan o adeilad y Senedd lle caiff Cyfarfodydd Llawn y Senedd eu cynnal. Mae oriel gyhoeddus uwchben y Siambr, lle gall y cyhoedd drefnu i wylio’r cyfarfodydd.
Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020
Tymor
Siambr Hywel
Hen siambr drafod y Senedd yn Nhŷ Hywel lle mae modd cynnal digwyddiadau’n awr. Cafodd ei enwi ar ôl Hywel Dda a wnaeth y cyfreithiau ar gyfer rhannau o Gymru yn y ddegfed ganrif. Pan agorodd adeilad y Senedd ei drysau yn 2006, ailwampiwyd Siambr Hywel cyn ei hailagor fel siambr drafod i bobl ifanc a chanolfan dysgu rhyngweithiol. Hon yw’r siambr gyntaf o’i math yn Ewrop ac, ers ei lansio yn 2009, mae wedi bod yn lleoliad poblogaidd ar gyfer sesiynau dysgu, cynadleddau a darlithoedd.
Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020
Tymor
System Aelodau Ychwanegol
System bleidleisio gymysg a ddefnyddir i ethol Aelodau. Mae’n cyfuno elfennau o system y cyntaf i’r felin yn y 40 etholaeth, a system cynrychiolaeth gyfrannol, pan fydd pleidleiswyr yn dewis o restr o ymgeiswyr a gyflwynir bob plaid mewn pum rhanbarth ledled Cymru, gan ethol 20 o Aelodau ychwanegol. Mae hyn yn helpu i wneud iawn am yr anghyfartaledd sy’n codi’n aml yn etholiadau’r cyntaf i’r felin.
Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2020