Mae’r Senedd yn cynnwys 60 o Aelod etholedig. Caiff 40 ohonynt eu dewis i gynrychioli etholaethau unigol a chaiff 20 eu dewis i gynrychioli’r pum rhanbarth yng Nghymru.
Rhestr termau seneddol
Mynegai A-Y o dermau
Defnyddiwch y llythrennau isod i weld rhestr o dermau
Termau geirfa am A
Tymor
Aelodau’r Senedd
Mae gan y Senedd 96 Aelod etholedig. Mae gan Gymru 16 etholaeth, ac mae pob un o’r rhain cael ei chynrychioli gan chwe Aelod o’r Senedd. Term arall am Aelod o’r Senedd yw AS.
Diweddarwyd Ddiwethaf 08/05/2026
Tymor
Archwilio Cymru
Archwilio Cymru yw’r enw cyfunol ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru (“yr Archwilydd Cyffredinol”) a Swyddfa Archwilio Cymru
Mae’r Archwilydd Cyffredinol a staff Swyddfa Archwilio Cymru yn darparu cyngor a chymorth i gynorthwyo'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i wneud ei waith.
Mae rôl yr Archwilydd Cyffredinol yn cynnwys archwilio sut mae cyrff cyhoeddus yn rheoli ac yn gwario arian cyhoeddus, gan gynnwys sut maent yn sicrhau gwerth am arian wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi adroddiadau, a chaiff y rhan fwyaf ohonynt eu hystyried gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024