Sut mae cadeirio cyfarfod o Aelodau Cynulliad neu Aelodau Seneddol? Beth ydych chi eisiau ei wybod am fywyd mewn siambr drafod?
Dau berson sy'n gwybod yn union beth mae'r swydd yn ei olygu yw Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'r Gwir Anrhydeddus John Bercow AS, Llefarydd Tŷ'r Cyffredin. Ar 2 Rhagfyr, byddwn yn rhoi cyfle unigryw i chi ddeall eu rolau pan fyddant gyda’i gilydd mewn sesiwn drafod fin nos yng nghwmni Adrian Masters o ITV Cymru Wales, yn y Senedd ym Mae Caerdydd. Caiff y gynulleidfa gyfle i glywed trafodaeth ddiddorol iawn, a holi'r Llywydd a'r Llefarydd yn bersonol. Mae'r digwyddiad am ddim ac os hoffech gadw lle ffoniwch y Llinell Archebu ar 0300 200 6565, neu e-bostiwch cysylltu@cynulliad.cymru. Anfonwch eich cwestiynau atom ar Twitter gan ddefnyddio'r hashnod #CadwTrefn. Bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu'n fyw ar Facebook er mwyn ichi ofyn cwestiynau ar y pryd hefyd. Bydd y drafodaeth yn dechrau am 17.00.Felly, beth allwn ni ei ddysgu gan Lefarydd Tŷ'r Cyffredin, a beth allai ef ei ddysgu gennym ni? Oes gennych chi rywbeth yr hoffech ei ofyn i'r Llywydd?
Rôl y Llywydd yw'r un bwysicaf yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac mae wedi'i phennu yn Rheolau Sefydlog y Cynulliad. Mae'r Llywydd yn cadeirio'r Cyfarfod Llawn, ac yn cadw trefn yn y Siambr gan fod yn wleidyddol ddiduedd bob amser. Cyfarfod o'r 60 Aelod Cynulliad yw'r Cyfarfod Llawn. Caiff ei gynnal yn y Siambr, sef siambr drafod y Senedd. [caption id="attachment_3230" align="alignnone" width="1024"] 'Y Siambr', siambr drafod y Senedd[/caption] Mae'r Llywydd yn cymryd rhan weithgar wrth gynrychioli buddiannau'r Cynulliad a buddiannau Cymru yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae hefyd yn cadeirio Comisiwn y Cynulliad. Comisiwn y Cynulliad yw'r corff sy’n sicrhau bod gan Aelodau’r Cynulliad y staff a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu gwaith yn effeithiol ar ran pobl Cymru. Y Llywydd presennol yw Elin Jones, Aelod Cynulliad Plaid Cymru, a'r Dirprwy Lywydd yw Ann Jones, Aelod Cynulliad Llafur Cymru. Mae pob Llywydd yn dod â'i bersonoliaeth a'i bwyslais ei hun i'r swydd. Mae gan y Llywydd presennol, Elin Jones AC, dri maes blaenoriaeth:- Gwneud Llywodraeth Cymru yn fwy atebol i'r Cynulliad a phobl Cymru;
- Gwneud gwaith y Cynulliad yn fwy perthnasol ac amserol trwy drawsnewid y ffordd yr ydym yn rhannu gwybodaeth.
- Manteisio i'r eithaf ar yr adnoddau sydd ar gael i'r Cynulliad, a'i gryfhau trwy roi pobl Cymru wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau yn y Cynulliad.
‘The Speaker represents the House. S/he represents the dignity of the House, the freedom of the House and, because the House represents the nation, the Speaker is a symbol of the nation's freedom and liberty. Therefore it should be an honoured position, a free position and should be occupied always by persons of outstanding ability and impartiality.’
Jawaharlal Nehru, Prif Weinidog cyntaf India, ar rôl y Llefarydd.
Rhaid i'r Llywydd amddiffyn hawl Aelodau unigol i gyflawni eu gwaith heb ymyrraeth, i siarad ar ran y bobl y maent yn eu cynrychioli, ac i fynegi barn, hyd yn oed pan nad yw mwyafrif yr Aelodau'n rhannu'r farn honno. Dylai pob Aelod o'r Cynulliad gael cyfle cyfartal i gyfrannu at waith seneddol. Fel y Llywydd, mae Llefarydd Tŷ'r Cyffredin yn cadeirio dadleuon yn y siambr, yn cadw trefn yn ystod dadleuon ac yn galw ar Aelodau Seneddol i siarad. Mae gan y Llefarydd awdurdod llawn i wneud yn siŵr bod Aelodau Seneddol yn dilyn rheolau'r Tŷ yn ystod dadleuon. [caption id="attachment_3235" align="alignnone" width="1024"] Siambr Tŷ'r Cyfredin[/caption] Y Llefarydd yw’r awdurdod uchaf yn Nhŷ'r Cyffredin, ac fel y Llywydd, rhaid iddo fod yn wleidyddol ddiduedd bob amser. Mae'r Llefarydd hefyd yn cynrychioli Tŷ'r Cyffredin i'r Frenhines, yr Arglwyddi ac awdurdodau eraill, ac yn cadeirio Comisiwn Tŷ'r Cyffredin. Ar 22 Mehefin 2009, etholwyd John Bercow yn Llefarydd Tŷ'r Cyffredin. Ef yw'r 157fed Llefarydd. Mae'n gyn-Gadeirydd cenedlaethol Ffederasiwn y Myfyrwyr Ceidwadol a Chynghorydd Bwrdeistref Llundain. Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Buckingham ym mis Mai 1997 ar ran y Blaid Geidwadol, gan wasanaethu ar y meinciau blaen fel llefarydd ar Addysg a Chyflogaeth a Materion Cartref. Penodwyd ef yn Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ar ran yr Wrthblaid yn 2001, ac yna yn Weinidog yr Wrthblaid dros Waith a Phensiynau yn 2002, a rhwng 2003 a 2004 bu'n Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Ddatblygu Rhyngwladol. Yna daeth yn aelod o'r Pwyllgor Dethol Datblygu Rhyngwladol a gwasanaethodd fel cyd-Gadeirydd y Grŵp Seneddol Trawsbleidiol ar Burma, ac yn Is-gadeirydd y Grŵp Seneddol Trawsbleidiol ar atal hil-laddiad, Affrica a Swdan. Ef oedd Ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol a sefydlodd y Grŵp Trawsbleidiol ar Diwmorau'r Ymennydd. Ym mis Medi 2007 cafodd ei benodi gan y Llywodraeth i arwain adolygiad o wasanaethau i blant a phobl ifanc ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Ac yntau wedi'i benodi i Gynhadledd y Llefarydd ar Gynrychiolaeth Seneddol ym mis Tachwedd 2008, fe'i gwnaed yn Gadeirydd y Gynhadledd wedi iddo ddod yn Llefarydd. [gallery ids="2115,2116" type="rectangular"] [gallery ids="3226,3227" type="rectangular" link="none"]