Datgoedwigo

Datgoedwigo

COP26: Cadw'r Pwysau Ymlaen

Awdur Llyr Gruffydd MS   |   Cyhoeddwyd 24/11/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/11/2021   |   Amser darllen munud

Llyr Gruffydd MS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd ac Adeiledd, sydd yn dadansoddi'r pethau positif a negatif o'i amser yn COP26.

Mae'r llwch wedi setlo ac mae'r syrcas wedi symud ymlaen. Mae Glasgow wedi dychwelyd i'r arfer. Mae COP26 eisoes yn teimlo fel pe bai’n perthyn i’r gorffennol pell.

Cyn yr uwchgynhadledd, ysgrifennais flog am fy ngobeithion a'm disgwyliadau ar ei chyfer. Felly, beth yw'r dyfarniad? Ydw i'n llawn gobaith neu'n gwbl anobeithiol?

Cyn COP26, dywedais fod angen inni weld ymrwymiadau cyllido i gefnogi gwledydd datblygol i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Gwyddom nad yw hyn wedi digwydd hyd yn hyn a bod gwledydd cyfoethog wedi methu yn druenus i gadw eu haddewid, a wnaed yn COP15, i roi £75 biliwn y flwyddyn i wledydd tlotach ar gyfer pontio.

Gwelodd COP26 gytundeb newydd i fynd i'r afael ag unrhyw ddiffyg o fewn dwy flynedd. Dylid croesawu hyn, ond fy mhryder i yw bod y symiau aruthrol hyn yn mynd i fod yn brin o'r hyn sy'n angenrheidiol, yn enwedig ar gyfer gwaith addasu yn y gwledydd y mae newid hinsawdd yn effeithio arnynt waethaf.

Dywedais hefyd fod angen inni weld bwriadau da yn cael eu trosi'n gamau pendant. Daeth sawl prif gytundeb allan o COP26 mewn meysydd fel tanwydd ffosil a methan, datgoedwigo, a thrafnidiaeth.

Ond, lle mae nod Cytundeb Paris i gyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5C yn y cwestiwn, y consensws yw mai o’r braidd y bydd yr ymrwymiadau yn ddigon i’w gadw’n fyw.

Rwy'n falch bod gwledydd wedi cytuno i ddod â thargedau cryfach i dorri allyriadau yn ôl erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, ond fel y dywedais yn fy mlog diwethaf, ni allwn barhau i lusgo ein traed.

Yn olaf, dywedais fy mod yn gobeithio gweld tystiolaeth o bontio teg. Roedd cryn feirniadaeth yn ystod yr uwchgynhadledd fod gwledydd tlotach, yn enwedig cymunedau brodorol, wedi'u heithrio. Mae hynny'n annerbyniol a rhaid mynd i'r afael ag ef mewn pryd ar gyfer y COP nesaf.

Yr oeddwn yn falch o weld Gweinidogion Cymru yn cymryd rhan mewn trafodaethau gyda chynrychiolwyr y cymunedau hyn yn ystod yr uwchgynhadledd. Gall Cymru elwa ar rannu profiad a gwybodaeth â nhw.

Ar y cyfan, rwy'n credu bod Cymru wedi cael uwchgynhadledd dda – roedd hon yn enghraifft o'r hyn y gallwn ei gyflawni fel gwlad lai ar lwyfan y byd. Roedd Gweinidogion o Lywodraeth Cymru yn weladwy iawn ac roeddent wrth wraidd sawl ymrwymiad pwysig.

Chwaraeodd dinasyddion Cymru eu rhan hefyd – roedd yn ymddangos bod ein Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid yn gweithio'n ddiflino i godi ymwybyddiaeth drwy gydol yr uwchgynhadledd.

Roedd gan lawer o sefydliadau Cymreig bresenoldeb ac fe wnes i ddal i fyny gydag NFU Cymru a Climate Cymru tra oeddwn i yno. Roedd Cadeiryddion ac Aelodau sawl un o Bwyllgorau'r Senedd yn bresennol, i rannu ein profiadau fel seneddwyr.

Mae’n bosibl nad oedd COP26 byth yn debygol o arwain at un cytundeb mawr a thaclus a fyddai’n cyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5C. Mae'r trafodaethau hyn yn rhai byd-eang a chymhleth.

Ond gwnaeth llywodraethau sawl ymrwymiad y mae angen eu cyflawni. Mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni i gyd - dinasyddion, sefydliadau a gwleidyddion - yn parhau i bwyso arnynt, er mwyn dwyn llywodraethau i gyfrif a chadw 1.5C yn fyw.

Mae'r gwaith hwnnw'n dechrau o ddifrif nawr.