Delwedd stoc o ddau unigolyn yn adolygu ac yn trafod dogfen wrth ddesg mewn swyddfa.

Delwedd stoc o ddau unigolyn yn adolygu ac yn trafod dogfen wrth ddesg mewn swyddfa.

Dyfodol Mwy Cynhwysol: Gwella Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru

Cyhoeddwyd 27/03/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/03/2025

Mae penodiadau cyhoeddus yn llywio’r gwasanaethau rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw – o iechyd i drafnidiaeth, diwylliant i hawliau plant. Ond os mai dim ond grŵp cyfyngedig o bobl a gaiff eu cynrychioli yn y rolau hyn, ydyn ni ar ein colled o ran safbwyntiau hanfodol?

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd wedi lansio ei adroddiad diweddaraf, sy'n tynnu sylw at broblemau gyda dull Llywodraeth Cymru, sy’n dibynnu gormod ar ymgeiswyr o ardal Caerdydd, a phroses recriwtio anhygyrch sy'n atal darpar ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol ledled Cymru.

P'un a ydych eisoes mewn rôl gyhoeddus, wedi bod yn y gorffennol neu yn ystyried un yn y dyfodol, mae adroddiad y Pwyllgor yn gofyn rhai cwestiynau pwysig a allai arwain at rai gwelliannau yn y ffordd y caiff pethau eu gwneud yng Nghymru.

Beth yw'r prif rwystrau o ran penodiadau cyhoeddus yng Nghymru?

Mae sawl rhwystr i'r rhai sy'n chwilio am benodiad cyhoeddus, gan gynnwys:

Prosesau recriwtio anhygyrch ac anhyblyg

Mae unigolion sydd wedi ystyried rolau cyhoeddus yn sôn am heriau sylweddol wrth gael gafael ar wybodaeth am swyddi sydd ar gael. Mae'r broses ymgeisio yn aml yn cael ei hystyried fel 'celf' sy'n gofyn am wybodaeth fewnol, a all ddigalonni newydd-ddyfodiaid.

Yn ogystal, mae trafferthion fel dogfennau anhygyrch, tâl annigonol, a rolau anhyblyg nad ydynt yn darparu ar gyfer cyfrifoldebau gofalu neu anghenion hygyrchedd yn rwystr pellach i ymgeiswyr amrywiol.

Mae Damian Bridgeman wedi dal sawl rôl penodiad cyhoeddus ers 2014 ac mae ganddo barlys yr ymennydd, a rhannodd ei brofiadau:

“Rwy’n wirioneddol gredu bod angen i bobl anabl gael lleisiau cynrychioliadol sy’n adlewyrchu cymdeithas yng nghoridorau pŵer. Dyna pam y penderfynais gamu i fywyd cyhoeddus.

Ond, wrth drafod addasiadau rhesymol, mae pobl yn cymryd yn ganiataol y bydd angen llawer o ofal arnoch, ond y cyfan sydd ei angen arnaf i mewn gwirionedd yw rhywun i’m helpu i gymryd fy nodiadau fy hun. Mater arall, er enghraifft, yw nad yw’r system ymgeisio yn gweithio gyda meddalwedd darllenwyr sgrin. Yn ffodus i mi, rydw i’n gwybod ac yn gallu dweud wrth Uned Cyrff Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn union beth sydd ei angen arnaf, ond roedd yn amlwg nad oedden nhw’n gwybod pa addasiadau oedd ar gael i'w cynnig. Roedd cael cefnogaeth yn eithaf anodd, mewn gwirionedd.


Drwy gydol y broses rwyf wedi gorfod bod yn fodlon gofyn, ac mae yna nifer o bobl anabl na fydd yn gofyn am addasiadau rhesymol oherwydd eu bod nhw’n meddwl y bydd hynny’n cyfri yn eu herbyn nhw wrth wneud cais am benodiadau cyhoeddus.”

Mae’r Pwyllgor wedi amlinellu argymhellion sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r materion hyn, gan gynnwys:

Argymhelliad 14: Dylai Uned Cyrff Cyhoeddus Llywodraeth Cymru ymgymryd â gwaith i wella ei hymwybyddiaeth o’r hyn sy’n gyfystyr ag addasiad rhesymol a mabwysiadu dull rhagweithiol o ddarparu opsiynau lluosog i ymgeiswyr o ran yr addasiadau sydd eu hangen arnynt. Gofynnwn am ddiweddariad ar y gwaith hwn gan gynnwys manylion yr opsiynau sydd ar gael ymhen 6 mis.

Argymhelliad 15: Dylai Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen yn gyflymach â’i gwaith i wella hygyrchedd y broses recriwtio ar gyfer penodiadau cyhoeddus a gofynnwn am ddiweddariad ar allbynnau ei gwaith gyda grŵp atebolrwydd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol cyn gynted â phosibl.

Diffyg ymwybyddiaeth ac ymgysylltu

Mae canfyddiadau ymgysylltu y Pwyllgor yn datgelu diffyg ymwybyddiaeth gyffredinol am gyrff cyhoeddus a'u swyddogaethau. Nid yw llawer o unigolion yn ymwybodol o'r ystod o gyfleoedd sydd ar gael, ac mae canfyddiad bod penodiadau cyhoeddus wedi’u neilltuo ar gyfer demograffeg benodol. Nododd un cyfranogwr: 

“Tydy pobl ddim yn gwybod am benodiadau cyhoeddus na beth yw penodiad cyhoeddus. Mae rhagdybiaeth mai swydd arall ydyw.  Dim ond ar ôl fy nghais cyntaf y gwelais yr holl wahanol benodiadau, doeddwn i ddim yn sylweddoli bod cymaint o gyfleoedd.

 

Pan agorodd y drws sylweddolais fod yna fyd arall ar gael, ac yna rydych chi'n meddwl, sut mae pobl yn mynd i'r rolau hyn os nad ydyn nhw hyd yn oed yn gwybod amdanyn nhw?”

- Unigolyn a gyfrannodd at yr ymarfer ymgysylltu

Mae adroddiad y Pwyllgor yn gwneud yr argymhellion canlynol i helpu i fynd i'r afael â'r diffyg ymwybyddiaeth ac ymgysylltu:

Argymhelliad 5: Dylai Llywodraeth Cymru ail-frandio ac ail-lansio’r Uned Cyrff Cyhoeddus, gan nodi ei rôl a’i diben yn glir a sicrhau ei bod yn gwbl amlwg ac yn rhyngweithio â’r cyhoedd. Dylai hyn gynnwys darparu mwy o wybodaeth i'r cyhoedd am ei rôl a'i chylch gwaith, a bod ar gael i bob ymgeisydd ar wefan Llywodraeth Cymru.

Yr Uned Cyrff Cyhoeddus sy’n gyfrifol am oruchwylio penodiadau cyhoeddus, fodd bynnag, daeth y Pwyllgor i'r casgliad ei bod wedi bod yn tanberfformio yn y rôl hon, gyda llawer o ymgeiswyr yn anymwybodol o'i bodolaeth.

Argymhelliad 6: Dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu gwaith i gynyddu amlygrwydd yr Uned Cyrff Cyhoeddus, gan nodi camau gweithredu clir i gyflawni hyn ac amserlenni ar gyfer pryd y bydd y camau gweithredu'n cael eu cwblhau. Dylai Llywodraeth Cymru roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ei chynnydd o ran rhoi hyn ar waith

Pa newidiadau y gellid eu gwneud i wella pethau yng Nghymru?

Cyfarfu Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Senedd â sawl person i drafod y broses benodiadau cyhoeddus bresennol a'r hyn y gellid ei wneud i wella pethau.  Mae rhai o'u hawgrymiadau wedi cael eu trafod gan y Pwyllgor, a'u defnyddio fel argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

Rhaglen fentora

Sefydlu rhaglen fentora Cymru gyfan wedi'i chydgysylltu'n ganolog i gysylltu pobl hoffai gael eu mentora ag aelodau profiadol o fwrdd, yn enwedig paru unigolion o grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli.

Hysbysebu gwell

Dylid hysbysebu penodiadau cyhoeddus yn ehangach, gydag ymdrechion wedi'u targedu i gyrraedd grwpiau penodol sydd wedi'u tangynrychioli.

Proses ymgeisio symlach

Dylai ffurflenni cais ddefnyddio iaith glir, amlinellu ymrwymiadau a chyfrifoldebau, a bod ar gael mewn gwahanol fformatau ac ieithoedd. 

Mecanwaith adborth

Darparu adborth adeiladol, penodol i bob ymgeisydd aflwyddiannus i'w helpu i wella ac annog ceisiadau yn y dyfodol.

Casglu data

Casglu a chynnal data cynhwysfawr ar aelodau cyfredol, posibl ac aflwyddiannus i fyrddau i ddatblygu targedau ystyrlon ar gyfer gwella amrywiaeth ar fyrddau.

Mae'r Pwyllgor hefyd wedi dadlau nad yw Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus presennol Cymru a Lloegr bellach yn addas ar gyfer Cymru ddatganoledig, ac y dylid cael Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus yn unswydd i Gymru yn lle hynny. Byddai hyn yn helpu i ddod ag arweinyddiaeth gliriach, gwell atebolrwydd, ac ymrwymiad hirdymor i wella amrywiaeth a hygyrchedd.

Penderfyniad Llywodraeth Cymru nawr yw a ddylid gweithredu ar yr argymhellion – ac a fydd penodiadau cyhoeddus yng Nghymru yn dod yn fwy agored i bawb o'r diwedd.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr adroddiad yn llawn ac edrychwch ar y Canfyddiadau Ymgysylltu i ddarganfod beth sydd gan eraill i'w ddweud am benodiadau cyhoeddus yng Nghymru.