Gadael neb ar ôl

Cyhoeddwyd 01/10/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Blog gan y Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Bob blwyddyn ar 1 Hydref, mae'r byd yn cymryd y cyfle i ddathlu pobl hŷn a'r gwahanol ffyrdd y maen nhw'n cyfrannu at ein bywydau fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn y Cenhedloedd Unedig. Eleni, gyda'r byd o'n cwmpas wedi newid cymaint, mae pethau ychydig yn wahanol, wrth gwrs.

Ond mae heddiw yn gyfle da nid yn unig i oedi a myfyrio ar y ffyrdd y mae Covid-19 yn effeithio ar bobl hŷn ledled y byd, ond hefyd i ystyried yr hyn y mae angen i ni ei wneud i sicrhau nad yw pobl hŷn yn cael eu gadael ar ôl wrth i ni ddechrau symud ymlaen, sef pryder y mae llawer o bobl hŷn wedi sôn wrtha i amdano.

Trwy gydol y pandemig, mae fy nhîm a minnau wedi ymgysylltu â phobl hŷn ledled Cymru i glywed ganddynt am y problemau a'r heriau y maent wedi'u hwynebu, yn ogystal â'r pethau sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w bywydau yn ystod y misoedd diwethaf.

Y lleisiau a'r profiadau hyn sydd wrth wraidd fy adroddiad 'Gadael neb ar ôl', a gyhoeddais ym mis Awst. Mae'r adroddiad yn archwilio'r effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar lawer o agweddau ar fywydau pobl hŷn ac yn galw am weithredu ar draws nifer o feysydd allweddol – gan gynnwys gofal cymdeithasol ac iechyd, yr economi, a'n cymunedau – i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar yr help a'r cymorth y gallai fod ei hangen arnynt ac yn gallu cymryd rhan yn llawn pan fydd Cymru'n dechrau ei adferiad ar ôl Covid-19.

Yn yr adroddiad, rwyf wedi nodi camau ymarferol y mae'n rhaid eu cymryd ar unwaith i fynd i'r afael â materion a grëwyd gan y pandemig, yn ogystal â chamau gweithredu tymor hwy a ddyluniwyd i fynd i'r afael â'r materion strwythurol ehangach sy'n effeithio ar bobl hŷn sydd wedi'u gwaethygu gan Covid-19. Mae hyn yn cynnwys:

  • Dirymu adrannau o’r Ddeddf Coronafeirws sydd mewn perygl o gyfyngu ar hawliau pobl hŷn i gael gofal a chymorth.
  • Sefydlu rhaglen adsefydlu ar gyfer pobl hŷn sydd wedi cael eu heffeithio'n gorfforol a/neu'n feddyliol gan Covid-19.
  • Sefydlu rhaglen gymorth bwrpasol i helpu gweithwyr hŷn i barhau mewn gwaith neu i gael eu hailhyfforddi os ydynt yn mynd i gael eu diswyddo.
  • Buddsoddi mewn ymgyrch a chymorth wedi’u targedu i gynyddu’r niferoedd sy’n hawlio Credyd Pensiwn.
  • Darparu cymorth wedi’i deilwra i bobl hŷn i’w helpu i fynd ar-lein, gan gynnwys darparu dyfeisiadau hawdd eu defnyddio gyda mynediad i’r rhyngrwyd.

Rwyf wedi dechrau gweithio gyda Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus allweddol a sefydliadau eraill i sicrhau bod profiadau ac anghenion pobl hŷn yn llywio eu cynlluniau wrth iddynt symud ymlaen, a byddaf yn defnyddio'r adroddiad fel sylfaen dystiolaeth bwerus i ysgogi newid i bobl hŷn.

Mae'r pandemig wedi taflu goleuni ar lawer o'r materion sy'n wynebu pobl hŷn ledled Cymru, ac rydym wedi gweld yr effaith anghymesur y mae Covid-19 wedi'i chael ar lawer o grwpiau yn y gymdeithas, sy’n adlewyrchu anghydraddoldebau a gwahaniaethu systematig sy’n bodoli ers amser maith.

Ond trwy gydol y pandemig, rydym hefyd wedi gweld llawer o enghreifftiau o weithredu cymunedol cadarnhaol ledled Cymru sydd wedi darparu cymorth hanfodol i'r rhai sydd ei angen, gan gynnwys llawer o bobl hŷn.

Mae'n hanfodol ein bod yn adeiladu ar y gweithredu cadarnhaol hwn, sydd wedi cyflawni cymaint i gynifer o bobl, ynghyd â chydnabod cyfraniad sylweddol pobl hŷn at ein cymunedau a'n heconomi a hyrwyddo undod rhwng y cenedlaethau.

Gyda’n gilydd gallwn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.