Steve Knapik MBE sy'n sôn am ei arddangosfa, 'Cerdyn Post o Gymru', sy'n agor yn y Senedd ar 27 Gorffennaf 2019.
Rwy'n artist, ond rwyf hefyd yn angerddol am fy ngwaith gyda'r elusen i blant, Blue Balloon. Drwy'r elusen hon, mae llawer o bobl yn gweithio'n galed i wella bywydau plant yng Nghymru. Ychydig flynyddoedd yn ôl, roeddwn i am helpu Blue Balloon drwy drefnu prosiect celf enfawr i greu tirlun mawr, mawr iawn; mor fawr, a dweud y gwir, roeddwn i'n gobeithio torri Record Guinness y Byd am y tirlun parhaus hiraf erioed. Roeddwn i'n gwybod y byddai'n llawer o waith, felly gofynnais am help gan lawer o wahanol bobl, gan gynnwys disgyblion ysgolion cynradd, grwpiau sy'n cefnogi pobl sy'n byw â dementia, a disgyblion ysgolion sydd ag anghenion ychwanegol. Roedd hi'n bwysig i mi gynnwys amrywiaeth o bobl i wneud yn siŵr bod y prosiect yn cynnwys ac yn croesawu pawb.
Gwnaethom ni weithio'n galed am bum mlynedd. Roedd trefnu popeth yn dipyn o waith, ond roedd e'n werth chweil i weld y cyffro a'r mwynhad ar wynebau pawb. Er mwyn torri Record Guinness y Byd, roedd angen o leiaf 30,000 o ddarluniadau arnom, felly roedd llawer o waith i'w wneud! Roedd llinellau ar bob darlun yn dangos ble roedd y mynyddoedd a'r awyr, ac roedd hyn yn golygu bod modd cyfuno'r lluniau i greu un gwaith celf mawr. Gwelais lawer o dalent greadigol a ffyrdd llawn dychymyg o feddwl am ein tirweddau. Er enghraifft, defnyddiodd rhai o'r plant ysgol gynradd flociau o streipiau lliw i gynrychioli caeau.
Roedd pawb yn gyffrous am ein hymdrech i dorri Record y Byd. Roedd hyd yn oed Stadiwm Liberty yn Abertawe yn barod i ni arddangos dros bum milltir o ddarluniadau gwreiddiol wedi'u cyfuno…
Ac yna, newyddion gwael! Gwnaethom ni glywed nad oedd modd cofrestru ein prosiect fel record byd. Roeddwn i'n drist ac yn siomedig iawn. Beth oeddwn i'n mynd i'w wneud â'r holl ddarluniau gwych? Ond roeddwn i'n benderfynol na fyddwn i'n cael fy nhrechu. Roedd y gweithiau celf anhygoel hyn yn haeddu cael eu harddangos. Roedd angen adeilad eiconig a phwysig arnaf i arddangos y dalent a'r creadigrwydd a welais gan blant ledled Cymru.
Cysylltais â Chynulliad Cenedlaethol Cymru a chwrdd ag Alice sy'n guradur yno. Mae hi'n gweithio gydag artistiaid i drefnu arddangosfeydd. Pa le gwell i arddangos y gweithiau celf gwych hyn na'r Senedd, cartref democratiaeth yng Nghymru, lle mae pobl yn gwneud penderfyniadau pwysig am yr hyn sy'n digwydd yn ein gwlad? Cwrddais i ag Alice a buom yn siarad am greu arddangosfa o'r tirluniau yn y Senedd. Fe dreuliom ni lawer o amser yn cynllunio, ac o'r diwedd, roeddem ni'n barod i roi'r arddangosfa at ei gilydd er mwyn i bawb ei mwynhau.
Rwy'n teimlo mai'r Senedd fydd y lle perffaith i ddangos ein gwaith celf, ac rwy'n edrych ymlaen at gael hyd yn oed mwy o bobl i gymryd rhan, drwy annog ymwelwyr â'r Senedd i wneud cardiau post i'w hanfon, ac i ddathlu llawer o bethau cyffrous sy'n digwydd yn y Cynulliad eleni…
Ugainmlwyddiant Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Roedd yn gymaint o anrhydedd cael fy newis i fod yn rhan o'r dathliad pwysig hwn. Crëwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20 mlynedd yn ôl, ac mae'r adeilad hardd hwn yn lle gwych ar gyfer dathliad mawr. Mae'r adeilad ar agor i'r cyhoedd, ac rwy'n falch iawn i'ch gwahodd CHI, y cyhoedd, i fentro mewn a chymryd rhan wrth greu eich tirlun unigryw eich hun. Rwy'n gobeithio y cewch chi gymaint o hwyl â dros 30,000 o blant ac oedolion o'ch blaen wrth gymryd rhan yn ein prosiect.
Senedd Ieuenctid Cymru
Ym mis Chwefror eleni, cyfarfu Senedd Ieuenctid Cymru, sy'n cynnwys 60 o bobl ifanc 11-18 oed, am y tro cyntaf. Rydym ni am helpu i ddathlu'r digwyddiad gwych hwn a sefyll ochr yn ochr â'r 60 aelod sy'n cynrychioli pob rhan o Gymru. Mae gan bob aelod ddiddordeb mawr mewn elfennau o fywyd sy'n effeithio ar bobl ifanc heddiw. Mae mor bwysig i'n pobl ifanc gael llais, ac mae'r Senedd Ieuenctid yn gweithio'n galed i sicrhau bod y llais hwnnw'n cael ei glywed. Fe wnaeth rhai aelodau o'r Senedd Ieuenctid hyd yn oed gymryd rhan yn fy mhrosiect pan oedden nhw yn yr ysgol!
Arwyddair yr elusen i blant, Blue Balloon, yw 'Gobaith heddiw am well yfory', ac mewn sawl ffordd, mae'n berthnasol i'r bobl ifanc hyn sy'n cynrychioli lleisiau holl bobl ifanc Cymru ac yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Y celfyddydau fel rhan o'n Cymreictod
Mae gan Gymru fel cenedl ymdeimlad cryf o berthyn a hunaniaeth. Mae hyn i'w weld mewn sawl ffordd, yn enwedig drwy'r celfyddydau. Rydym ni'n dathlu Cymru fel gwlad y gân, felly mae cerddoriaeth yn rhan gref o'n treftadaeth; ond mae barddoniaeth, drama a'r celfyddydau gweledol yn bwysig iawn hefyd. Gall pob math o bethau ein hysbrydoli. Mae artistiaid wedi eu swyno gan dirweddau Cymru ers canrifoedd: y mynyddoedd, y môr a'r awyr.
Mae'n bwysig i ni edrych yn fanwl ar ein hamgylchedd agos, ac wrth siarad â phobl ifanc a phobl nad oedden nhw mor ifanc yn ystod y prosiect, gwnaethom drafod llawer o bethau sy'n effeithio ar ble rydym ni'n byw. Gall yr amgylchedd o'n cwmpas helpu i ddechrau trafodaeth, a gwnaethom ddangos ein teimladau am ein hamgylchedd drwy ein tirluniau. Rhaid i ni beidio byth â cholli golwg ar bwysigrwydd y celfyddydau mewn cymdeithas a sut gallan nhw fod yn bositif iawn i'n llesiant a'n synnwyr o bwy ydym ni.