Gan Abi Lasebikan, Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant a Chydlynydd y Rhwydweithiau
Beth yw Rhwydweithiau Cydraddoldeb yn y Gweithle? Fel Cydlynydd y Rhwydweithiau rwy’n gweld y Rhwydweithiau Cydraddoldeb yn y Gweithle (WENs) fel lle i bobl sy’n uniaethu â grŵp â nodwedd warchodedig a / neu sydd â diddordeb mewn maes amrywiaeth penodol (h.y. ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, hil, crefydd / cred, oedran, beichiogrwydd / mamolaeth, rhyw, priodas / partneriaeth sifil ac anabledd), i ddod ynghyd i:- rhoi a derbyn gofal bugeiliol;
- rhannu gwybodaeth yn ymwneud â chydraddoldeb; hyrwyddo materion cydraddoldeb sy’n ymwneud â’u grŵp;
- cael mynediad at gyfleoedd dysgu i feithrin sgiliau a fydd yn helpu unigolion i ddatblygu’n bersonol ac i ddatblygu yn eu gyrfa, ac
- gweithredu fel asiantau hanfodol ar gyfer newid yn y sefydliad.
- Darparu cefnogaeth a chyngor anffurfiol gan gynghreiriaid.
- Cynnig llwyfan ar gyfer trafod materion sy’n effeithio ar aelodau o’r rhwydweithiau.
- Gwella datblygiad gyrfa a dilyniant ar gyfer staff, drwy amrywiol raglenni, gan gynnwys cyfleoedd mentora.
- Creu cyfleoedd i rwydweithio.
- Rhoi cyfle i aelodau nodi a chynghori Comisiwn y Cynulliad ar y materion sy’n effeithio ar staff, drwy asesu effaith polisïau.
- Deall gwerth wrth reoli a datblygu potensial gweithlu cynyddol amrywiol.
- Recriwtio a chadw’r bobl fwyaf dawnus.
- Darparu’r gwasanaeth gorau i randdeiliaid.
- Gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ddiwylliant gwaith y Cynulliad.
- Ei gwneud yn bosibl i ni ddeall sut beth yw gweithio yn yr amgylchedd o safbwynt yr aelodau.
- Ein galluogi ni i ddeall defnyddwyr amrywiol ein gwasanaethau.
- Gwasanaethu fel cyrff ymgynghori a chynghori mor effeithiol ar faterion sy’n ymwneud ag amrywiaeth.
EMBRACE – ein rhwydwaith i bobl anabl Mae’n agored i bobl anabl, y rhai sy’n cefnogi pobl anabl a phobl sydd â diddordeb mewn cydraddoldeb i bobl anabl. O fewn Embrace mae is-grwpiau dyslecsia a grwpiau poen cronig. Cadeirydd y Rhwydwaith yw
Abi Phillips
INSPIRE – ein rhwydwaith i fenywod. Mae’n agored i ddynion a menywod. Caiff ei gyd-gadeirio gan Sarah Crosbie a Janette Iliffe
Y rhwydwaith i bobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol. Mae’n agored i bobl LGBT fel aelodau ac i bobl sydd â diddordeb mewn cydraddoldeb i bobl LGBT. Caiff ei gyd-gadeirio gan Craig Stephenson a Jayelle Robinson-Larkin
Teulu - Mae ein rhwydwaith i Rieni sy’n Gweithio a Gofalwyr yn rhwydwaith rhithwir sy’n gweithredu yn bennaf ar-lein ar hyn o bryd. Mae croeso i aelodau a chynghreiriaid newydd i’r rhwydwaith bob amser. Caiff ei gyd-gadeirio gan Holly Pembridge a Joel Steed
Y rhwydwaith Hil, Ethnigrwydd a Threftadaeth Ddiwylliannol yw’r rhwydwaith Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME). Mae’n agored i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig fel aelodau ac i bobl sy’n cefnogi cydraddoldeb hiliol fel cynghreiriaid. Caiff ei gyd-gadeirio gan Abi Lasebikan a Raz Roap
Mae’r Rhwydweithiau wedi cyfrannu at ac wedi codi proffil y sefydliad mewn amrywiaeth o ffyrdd. Maent wedi:
- Cyfrannu at lawer o asesiadau o effaith polisïau a phrosiectau, fel y polisi Maes Parcio Hygyrch, Polisi Penodiadau y Rhoddir Blaenoriaeth Iddynt yr Adran Adnoddau Dynol, prosiectau ailwampio yr Adran Rheoli Ystadau a Chyfleusterau, ac ati.
- Bod yn bresennol mewn digwyddiadau fel: ‘Pride and Sparkle’, Gwobrau Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall Cymru, Cynhadledd Cydraddoldeb Hiliol Flynyddol Cymru Gyfan, Mela, ac ati.
- Cymryd rhan mewn cymhellion cymunedol, fel casglu nwyddau i Fanc Bwyd Caerdydd.
- Cynhyrchu amrywiaeth o flogiau, taflenni gwybodaeth a chanllawiau ar amrywiaeth o bynciau, fel: Ramadan, Amrywiaeth Ddiwylliannol, Anableddau Anweledig, Ymwybyddiaeth Ddeurywiol, Iechyd Meddwl, ac ati.
- Gweithio’n agos gyda sefydliadau sector cyhoeddus eraill, fel Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd, i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant.
Dywedodd Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Gwasanaethau’r Comisiwn: "Mae’n bwysig iawn bod yna bobl LGBT weladwy ar bob lefel o fewn y sefydliad, a hefyd bod pobl yn gweld nad yw gallu’r bobl hyn wedi’i lesteirio o fod yn aelod o grŵp lleiafrifol i gyrraedd lefelau uwch. Yn bersonol, rwy’n credu, os ydych wedi cyrraedd sefyllfa sy’n rhoi gwelededd i chi, os gallwch ysbrydoli rhywun arall, ac os gallwch arwain drwy esiampl, y