Wrth i Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth 2019 ddod i ben, dyma ein blogiwr gwadd, Emma Durman, Cyfarwyddwr Autside, yw ein blogiwr gwadd a fydd yn sôn am ei phrofiadau ag awtistiaeth..
Gofynnwyd i mi ysgrifennu'r blog gwadd hwn ar ôl eistedd ar ddigwyddiad diweddar 'Panel Arweinwyr Anabledd' ym Mhrifysgol Caerdydd gydag Abi Lasebikan, Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae llawer o agweddau ar bwy ydw i, dim ond yn un ohonynt yw anabledd. Nid yw'n cyfyngu arnaf, mae'n agor fy llygaid!
Mae'n eironig i mi sut mae'r byd yn gweithio, sut mae ffawd yn troi a throsi. Mae'n syndod am mai'r holl resymau a oedd wedi arwain at sefyllfa mor freintiedig i mi yn y pen draw oedd yr holl resymau yr oeddwn i'n arfer credu na fyddwn byth yn gwneud hynny.
Gadewch i mi esbonio ychydig yn fwy. Rwy'n llawer o bethau. Rwy'n fam, yn bartner, yn ofalwr, yn ffrind, yn chwaer, yn fenyw Gymreig falch o dref ddiwydiannol fach lle mae'r arogl o sylffwr yn aml yn eich croesawu adref. Rwy'n awdur, yn ddarllenydd, yn academydd, yn frwdfrydig dros deledu a ffilmiau, yn 'geek', yn hoff o anifeiliaid ac yn dwli ar gaws! Ar hyn o bryd rwy'n gyd-gyfarwyddwr Autside, cwmni hyfforddi ac ymgynghori sy'n arbenigo mewn awtistiaeth a niwroamrywiaeth, ac yn fyfyriwr blwyddyn olaf MSc Awtistiaeth a Chyflyrau Cysylltiedig ym Mhrifysgol Abertawe.
Fi yw'r rhain i gyd - a dwi hefyd yn digwydd bod yn anabl. Rwy'n awtistig, ac mae gen i anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), CFS/ME, ffibromyalgia, IBS, asthma, iselder, gorbryder, anhwylder, straen wedi trawma (PTSD), poen penodol cronig yn y cefn a'r glun a phoen nerfol ar led, a syndrom gorsymudedd Ehler Danlos tebygol.
Mae pobl yn aml yn dweud na ddylai anabledd eich diffinio, ond rwy'n anghytuno. Mae fy anableddau/fy nghyflyrau yn diffinio fi'n llwyr, ond mae hyn hefyd yn wir o ran y pethau eraill yr oeddwn i wedi'u rhestru'n gyntaf.
Fodd bynnag, nid ydynt o reidrwydd yn CYFYNGU arnaf. Maent yn llywio fy mywyd, fy nghymeriad, fy nodau, fy niddordebau a hyd yn oed fy ngalluoedd a'm heriau. Pan ddechreuais groesawu'r holl bethau hyn amdanaf fy hun yn y pen draw, i weithio gyda nhw yn hytrach nag yn eu herbyn, i ddechrau gollwng dipyn wrth dipyn yr holl ddarnau o gywilydd ac euogrwydd a oedd wedi cronni drwy gydol fy oes, fe wnaeth popeth ddechrau gwella. Dechreuais ddod o hyd i gymuned o bobl a oedd yn fy neall ac a oedd yn gallu edrych arnaf mewn ffordd fwy cyfannol, gan gynnwys fy mhartner busnes Donna, oedd heb ystyried bod fy anabledd yn mynd i fod yn rhwystr. Mewn gwirionedd, mae'n anodd i mi gredu'n aml iawn ar ôl oes o anabledd lle mai dyma yw'r peth cyntaf ac weithiau'r unig beth y mae pobl yn ei weld, ei bod hi ddim yn gweld anabledd o gwbl. Rwy'n eithaf siŵr ei bod yn gweld ABLEDD, a dyna pam rydym yn gweithio mor dda gyda'n gilydd yn fy marn i, a pham mae ei pharch yn llywio fy hyder sy'n tyfu o ddydd i ddydd.
Fy nhaith addysg a chyflogaeth.
Cefais gryn drafferth gydag addysg ac yn ystod fy nghyflogaeth drwy gydol fy mywyd. Er y dywedwyd wrthyf fod gen i'r ddealltwriaeth i gyfrannu doeddwn i ddim yn gallu cyrraedd yr un lefel â phawb arall. Prin i mi ddod allan o'r ysgol â 6 TGAU ar ôl cyfnod hir o absenoldeb, gan ddychwelyd ar amserlen wedi'i lleihau. Fe es i i'r coleg ond roeddwn i'n ei chael hi'n anodd mynd i ddarlithoedd bob dydd, ac ar ôl i fy mentor, er bod fy ngraddau'n uchel, ddweud ei fod yn dda i ddim i mi fod yno am fod fy iechyd yn golygu na allwn fyth ddilyn unrhyw un o'r llwybrau gyrfa yr oeddwn i wedi'u dewis, penderfynais roi'r gorau i addysg.
Felly, dechreuais gylch o gael swyddi yr oeddwn i wedi gweithio'n andros o galed ynddynt ac yn aml fe wnes i'n dda iawn, tan yr adegau gwael. Byddai blinder nerfus yn codi'n raddol dro ar ôl tro, wrth i mi wthio fy hun nes bod fy mywyd yn cynnwys gwaith a chwsg, a phrin y gallu i olchi, bwyta, a glanhau fy nillad. Byddwn yn cwtogi ar ofynion cymdeithasol a hobïau, yn brwydro'n i ymdopi, nes y byddwn i'n chwalu, yn feddyliol, yn gorfforol, ac yn emosiynol.
Rwyf wedi gweithio fel goruchwyliwr manwerthu, cynorthwyydd personol, i uwch bartner mewn cwmni cyfreithiol ac yn adran brif weithredwr yr awdurdod lleol hefyd. Rwyf wedi bod yn weithredwr cyfreithiol dan hyfforddiant. Swyddi yr oeddwn i'n dwli arnynt ac yn eu gwerthfawrogi, a oedd yn rhoi ymdeimlad o werth, ac y bu'n rhaid i mi roi'r gorau iddynt yn y pen draw.
I mi roedd y broses gyfweld yn hawdd bob amser. Felly hefyd roedd y ffurflenni cais. Y broblem bob tro oedd cynnal y swydd.
Gwersi a ddysgwyd ac awgrymiadau i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth.
Cefais ddiagnosis o awtistiaeth ddim ond tair blynedd yn ôl yn dilyn genedigaeth a diagnosis dilynol ein merch, a dynnodd fy sylw at y posibilrwydd fy mod innau'r un fath. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod bod gen i anghenion synhwyraidd, cymdeithasol a phrosesu gwahanol, felly sut allwn i ddechrau esbonio pa gymorth neu baratoadau y gallai fod arnaf eu hangen?
Mae rhwystrau cymdeithasol i'w beio cymaint am unrhyw un o fy anawsterau a'm methiannau ag unrhyw beth sy'n gynhenid i mi. Pe bawn wedi cael diagnosis a chefnogaeth yn gynharach, efallai y byddwn i wedi ffynnu bell yn ôl fel fy mod i'n ddigon ffodus o gael gwneud yn awr. Sefydlwyd y model cymdeithasol o anabledd dros dri degawd yn ôl ac eto mae gennym lawer i'w wneud o ran cydnabod sut y gall rhwystrau cymdeithasol effeithio ar lefel yr anabledd y mae rhywun yn ei brofi.
Gall lleihau gofynion amgylcheddol, darparu cymorth cymdeithasol a hyfforddiant sy'n gwella ymwybyddiaeth ar draws y gweithlu helpu i wneud y ffiniau hynny'n ehangach ac yn llai cyfyngol, gan ganiatáu i ni gyflawni mwy mewn ffordd ddiogel nad yw'n niweidio ein hiechyd a'n lles cyffredinol. Gyda'r amrywiaeth gynyddol o dechnoleg anhygoel sydd gennym, mae'n haws nag erioed i weithio'n hyblyg neu o gartref, naill ai'n barhaol neu am ran o'r amser, a all gael effaith enfawr ar gynhyrchiant a chynhwysiant i lawer o bobl, gan gynnwys fy hun. Os yw fy stori i'n profi unrhyw beth, efallai mai ffrindiau yn y gweithle yw'r peth pwysicaf un, gan mai nhw yw'r fynedfa at bopeth arall.
I gloi
Mae angen i ni ddeall bod y gymuned anabl, awtistig a niwroamrywiol yr un mor hyfryd o amrywiol ac eclectig â gweddill dynol ryw, gyda chryfderau amrywiol a rhyfeddol nad ydym yn manteisio digon arnynt, er anfantais i ni.
Yn wir, mae anabledd yn aml yn ysgogi cymaint ag y mae'n herio. Mae'n gallu gwella eich gwydnwch, dyfalbarhad, cryfder ac angerdd. Yn fy achos i, mae wedi fy ngwneud yn ddiolchgar am y cyfleoedd sy'n dod ataf, mewn modd na fyddai wedi bod yn bosibl fel arall. Rwy'n ffyddlon, ac yn weithgar, ac rwy'n dipyn o berffeithydd, sy'n sgil ac yn her ar yr un pryd!
Rwy'n hynod o ffodus am fy mod wedi dod o hyd i bartner busnes cefnogol, sy'n gweld fy nghryfderau, fy ngwerthoedd, a'm doniau AC sy'n cydnabod fy anawsterau, fy nhrafferthion a'm terfynau, yn lle anwybyddu'r naill ochr. Mae llawer o bobl anabl yn gweld bod eu cryfderau a'u hannibyniaeth, neu eu hanghenion a'u terfynau yn cael eu hesgeuluso a'u hanwybyddu. Mae angen i ni wella wrth daro'r cydbwysedd sy'n ein galluogi i weld y ddwy ochr heb negyddu'r llall. Ni ddylai terfynau fod yn dabŵ. Yn wir, gall cydnabod a pharchu ein terfynau, a phwyso ein hunain yn unol â hynny fod yn allweddol i fywyd ystyrlon, a'r gyflogaeth gorau posibl.
Mae llwyddiannau diweddar fel ennill Gwobr Tai Cymru am ein gwaith gyda mi-space, contractwr sy'n arbenigo yn y sector tai cymdeithasol, a siarad mewn cynhadledd Gwrthderfysgaeth Cymru Gyfan yn ymddangos yn groes i'r fersiwn ohonof i sy'n cael trafferth codi o'r gwely, ymolchi, bwyta a meddwl yn glir, ond mae'r ddau yn rhan ohonof. Rwy'n lwcus fy mod wedi dod o hyd i'r gefnogaeth a'r hyblygrwydd yr oeddwn arnaf eu hangen i ffynnu. Dychmygwch pe bai pawb, fel fi, yn gallu cael mynediad at yr un math o gefnogaeth. Dychmygwch yr hyn y gellid ei gyflawni a'r cyfraniadau a fyddai'n cael eu gwneud. Mae angen i ni wneud yn well, fel cyflogwyr, fel cymdeithas. Oherwydd byddai methu â gwneud hynny yn wastraff cywilyddus o botensial, a gallai gwneud hynny arwain at bethau anhygoel.