Mae gonestrwydd gan wleidyddion yn hanfodol wrth ailadeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth a rhaid cryfhau'r ffordd y mae Aelodau o'r Senedd (ASau) yn cael eu dwyn i gyfrif – dyna yw casgliad Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd mewn adroddiad sy'n cael ei lansio heddiw.
Ym mis Ionawr, cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad sy’n galw am system ‘adalw’ newydd a fyddai’n caniatáu i’r Senedd argymell rhoi i bleidleiswyr y gallu i ddiswyddo ac amnewid Aelod o’r Senedd (AS) os yw’n torri’r Cod Ymddygiad mewn ffordd ddifrifol.
Nawr mae'r Pwyllgor yn mynd ymhellach, gan alw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau'r gyfraith i atal a chosbi gwleidyddion ac ymgeiswyr etholiadol sy'n dweud celwydd yn fwriadol.
Mae'r adroddiad yn galw am:
- Cryfhau'r cyfreithiau presennol sy'n ymwneud ag etholiadau'r Senedd, gan ehangu trosedd sy'n bodoli eisoes i gynnwys dichell bwriadol gan ymgeiswyr yn etholiadau'r Senedd
- Cryfhau’r Cod Ymddygiad ar gyfer ASau, gan ychwanegu rheol benodol i ymdrin â dichell, a'i nodi ar-lein os yw ASau wedi dweud celwydd
- Rhagor o annibyniaeth wrth ymchwilio i honiadau o dorri’r Cod Ymddygiad a’i orfodi, a chaniatáu i bobl nad ydynt yn wleidyddion eistedd ar y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
- Cynyddu pwerau'r Comisiynydd Safonau - caniatáu iddynt gychwyn eu hymchwiliadau eu hunain yn hytrach nag aros i gwynion gael eu cyflwyno
Dywedodd Hannah Blythyn AS, Cadeirydd Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd:
“Mae cryfhau’r rheolau ar gyfer Aelodau o'r Senedd ac ymgeiswyr sy'n sefyll i gael eu hethol yn hanfodol ar adeg pan fo ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein sefydliadau yn isel.
"Bydd etholiad nesaf y Senedd yn 2026 yn dod â newidiadau mawr i'r ffordd y caiff ein senedd ei hethol a'i strwythuro. Mae ond yn iawn ein bod yn defnyddio'r cyfle hwn i adolygu'r ffordd y mae gwleidyddion yn ymddwyn yn ystod etholiadau ac ar ôl iddynt gael eu hethol.
"Rhaid i'r Senedd gynrychioli pobl Cymru yn effeithiol a dylai pobl allu ymddiried yn y rhai sy'n eu cynrychioli. Mae ein hadroddiad yn cyflwyno argymhellion i wella ein rheolau yn sylweddol a'i gwneud yn glir i unrhyw un sydd am ddal swydd gyhoeddus nad yw dichell yn fwriadol yn dderbyniol.
"Trwy gryfhau'r gyfraith sy'n llywodraethu etholiadau, cryfhau ein Cod Ymddygiad a rhoi mwy o rym ac annibyniaeth i'r rhai sy'n ymchwilio i gwynion, gallwn ddechrau ailadeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein sefydliadau gwleidyddol a chefnogi senedd sy'n addas ar gyfer y dyfodol."
Wrth ddatblygu argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, clywodd Aelodau’r Pwyllgor Safonau dystiolaeth gan academyddion annibynnol a sefydliadau sydd ag arbenigedd yn y maes hwn.
Nawr rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb i’r adroddiad a’r argymhellion.
Mae’r adroddiad hwn yn rhan o ymchwiliad manwl Pwyllgor Safonau’r Senedd sy’n edrych ar ystod o faterion:
- Atebolrwydd Aelodau (adalw) ac anghymhwyso Aelodau o’r Senedd mewn achos o gamarwain/dichell bwriadol
- Rhoddion - y trefniadau ar gyfer cofrestru rhoddion gwleidyddol i Aelodau o’r Senedd
- Polisïau Urddas a Pharch
- Datgan a chofrestru buddiannau - adolygu a yw'r trefniadau'n dal i fod yn addas i'r diben
- Diwygio'r Mesur Comisiynydd Safonau